Y Fflint
Oddi ar Wicipedia
Y Fflint Sir y Fflint |
|
Mae'r Fflint (hefyd Saesneg: Flint) yn dref ar lannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint. Mae gorsaf drenau'r dref ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Rhed yr A548 a'r A5119 drwy'r dref. Y Fflint yw canolfan weinyddol y sir.
Tref ddiwydiannol yw'r Fflint. Ar ymyl y dref ceir castell Y Fflint, a godwyd rhwng 1277 a 1280 gan Edward I o Loegr. Nid oes llawer i'w weld yno heddiw o'r dref garsiwn ar gyfer ymsefydlwyr o Loegr a godwyd wrth ymyl y castell.
Mae tai bric coch o'r 19eg ganrif, yn aml mewn rhesi, yn nodweddiadol o bensaernïaeth y Fflint. Codwy eglwys y dref, Eglwys Fair, yn y 19eg ganrif. Mae'n ganolfan siopio eithaf prysur.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y Fflint ym 1969. Am wybodaeth bellach gweler:
Trefi a phentrefi Sir y Fflint |
Abermorddu | Afon-wen | Babell | Bagillt | Bistre | Brychdyn | Brynffordd | Bwcle | Caergwrle | Caerwys | Carmel | Cefn-y-bedd | Cei Connah | Cilcain | Coed-llai | Chwitffordd | Y Fflint | Ffynnongroyw | Gronant | Gwaenysgor | Gwernymynydd | Gwernaffield-y-Waun | Gwesbyr | Helygain | Higher Kinnerton | Yr Hob | Llanasa | Llaneurgain | Llanferres | Llanfynydd | Mancot | Mostyn | Mynydd Isa | Nannerch | Nercwys | Neuadd Llaneurgain | Oakenholt | Pantasaph | Pantymwyn | Penarlâg | Pentre Helygain | Penyffordd | Queensferry | Rhosesmor | Saltney | Sealand | Shotton | Sychdyn | Talacre | Treffynnon | Trelawnyd | Treuddyn | Yr Wyddgrug | Ysgeifiog |