Ysgol Eifion Wyn
Oddi ar Wicipedia
Ysgol gynradd gymunedol ym Mhorthmadog, Gwynedd ydy Ysgol Eifion Wyn. Enwyd yr ysgol ar ôl enw barddol Eliseus Williams. Yn adroddiad Estyn, disgrifir hi fel ysgol da hapus a gofalgar. Yno mae ymwybodaeth a balchrwydd o etifeddiaeth a treftadaeth Cymru yn cael eu hyrwyddo yn lwyddianus.[1]
Symudwyd yr ysgol i adeilad newydd ger Canolfan Hamdden Glaslyn, agorwyd hi'n swyddogol ar 6 Tachwedd 2003 gan Bryn Terfel.[2] Erbyn hyn mae archfarchnad Tesco wedi ei hadeiladu ar hen safle'r ysgol.
Mae dwsin o athrawon ac 14 o staff ategol yn yr ysgol, y prifathro ers cryn amser ydy Ken Hughes.[3] Daw y rhanfwyaf o blant yr ysgol (72%) o gartrefi ble mae Cymraeg yn iaith gyntaf, a 97% o'r plant yn siarad cymraeg i safon mamiaith.[1]
Enillodd disgyblion hyn yr ysgol Wobr Busnes Gwynedd yn 2007 wedi seflydu 'Cwmni Cŵl', y pwrpas oi sefydlu oedd i addysgu'r plant. Mae disgyblion yr ysgol yn mwynhau llwyddiant yn reolaidd mewn cystadleuthau megis Eisteddfod yr Urdd.
Ymysg cyn-ddisgyblion yr ysgol mae'r awdur Gareth F. Williams a'r cynhyrchwr a'r peirianwr cerddoriaeth Dyl Mei.