Dyl Mei
Oddi ar Wicipedia
Ganwyd Dylan Meirion Roberts, neu Dyl Mei fel gelwir, ym Mhenrhyndeudraeth yn 1981, cyn symyd i Borthmadog ac yna Garndolbenmaen, lle mae'n reolwr ar stiwdio recordio Pen y Cae ac yn gweithio fel cynhyrchwr/peirianwr cerddoriaeth. Fo sy'n gyfrifol am label Slacyr. Addysgwyd yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Ei dad yw Huw Meirion ('Monti') a'i fam yw Louie Roberts, Rheolwr Cyffredinol Siop Lyfrau ym Mhortmeirion. Mae ganddo gath o'r enw Peter Glyn; dau frawd, Osian a 'Monti Bach', ac un chwaer, Nia.
Mae wedi gweithio gyda amryo o gerddorion, gan gynnwys Genod Droog, Mc Mabon, Pep Le Pew, Vates!, Kentucky AFC, Tecwyn Ifan, Texas Radio Band, Spoonidols, The Locusts, Gwyneth Glyn, Plant Duw, Pwsi Meri Mew, MC Saizmundo, Y Llongau, Y Lladron, Gwallt Mawr Penri a Cowbois Rhos Botwnnog.
Mae hefyd yn athro technoleg cerddoriaeth yn ei amser sbâr!
[golygu] Gwobrau ac Anrhydeddau
- Band Byw Gorau - fel ran o Pep Le Pew - Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2003
- Band y Flwyddyn - fel ran o Pep Le Pew - Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2003
- Cynhyrchydd y Flwyddyn - Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2003
- Band Byw Gorau - fel ran o Pep Le Pew - Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2005
- Cynhyrchydd y Flwyddyn - Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2005
- Cynhyrchydd y Flwyddyn - Gwobrau Roc a Phop BBC Radio Cymru 2006