ZANU
Oddi ar Wicipedia
Corff a ffurfiwyd i wrthwynebu llywodraeth Ian Smith yn Ne Rhodesia oedd ZANU, yn llawn y Zimbabwe African National Union. Fe'i ffurfiwyd pan fu hollt yn y mudiad ZAPU Zimbabwe African People's Union. Fe'i sefydlwyd gan y Parchedig Ndabaningi Sithole, gyda Herbert Chitepo. Roedd tueddiad y mundiad ZANU yn fwy tuag ideoleg Maoaeth.
Daeth Robert Mugabe yn arweinydd ZANU wedi i Herbert Chitepo gael ei lofruddio ar 18 Mawrth, 1975. Gadawodd Ndabaningi Sithole i ffurfio'r blaid ZANU (Ndonga), oedd o blaid defnyddio dulliau heddychlon i geisio grym, tra roedd ZANU dan Mugabe o blaid ymgyrch arfog.
Wedi i lywodraeth Ian Smith orfod derbyn llywodraeth fwyafrifol, enillodd ZANU yr etholiad yn 1980 dan Robert Mugabe, a ddaeth yn Brif Weinidog Zimbabwe. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, ail-unodd a ZAPU dan Joshua Nkomo i ffurfio plaid ZANU-PF, y blaid sy'n llywodraethu yn Zimbabwe ar hyn o bryd, gyda Robert Mugabe fel Arlywydd.