Robert Mugabe
Oddi ar Wicipedia
Arlywydd Zimbabwe yw Robert Gabriel Mugabe (ganed 21 Chwefror, 1924).
Ganed ef ym mhentref Matibiri, ardal Zvimba, i'r gogledd-orllewin o Salisbury (Harare heddiw). Bu'n gweithio fel athro am gyfnod, gan gynnwys rhai blynyddoedd yn Ghana, lle dylanwadwyd arno gan Kwame Nkrumah. Yn 1960, dychwelodd i Dde Rhodesia ac ymunodd a'r Blaid Ddemocrataidd Genedlaethol, a ddaeth yn ddiweddarch yn fudiad y Zimbabwe African Peoples Union (ZAPU) dan Joshua Nkomo. Yn 1963 cynorthwyodd y Parchedig Ndabaningi Sithole i ffurfio'r Zimbabwe African National Union (ZANU), yn gwrthwynebu llywodraeth Ian Smith yn yr hyn oedd yr adeg honno yn Rhodesia. Yn 1964 fe'i carcharwyd am siarad yn erbyn y llywodraeth, a bu yng ngharchar am ddeng mlynedd. Enillodd dair gradd academig tra yn y carchar.
Wedi ei rhyddhau, symudodd i Mosambic a daeth yn arweinydd ZANU. Erbyn 1978 yr oedd llywodraeth Ian Smith wedi gorfod cydnabod na allai rheolaeth y lleiafrif gwyn barhau, ac arwyddwyd cytundeb gyda Abel Muzorewa, Ndabaningi Sithole ac eraill i rannu grym a chynnal etholiadau. Dychwelodd Mugabe i Zimbabwe yn Rhagfyr 1979. Daeth yn Brif Weinidog Zimbabwe yn 1980 ac yn Arlywydd cyntaf y wlad yn 1987.
Mae cryn nifer o lywodraethau wedi beirniadu llywodraeth Mugabe yn hallt am lygredd, camdrin gwrthwynebwyr gwleidyddol a chymeryd tir oddi wrth ffermwyr gwynion. Yn y blynyddoedd diwethaf mae economi Zimbabwe wedi dirywio yn fawr, gyda lefel uchel o chwyddiant a diwethdra.