A Coruña
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Un o ddinasoedd pwysicaf Cymuned Galisia yw A Coruña (Sbaeneg: La Coruña). Mae porthladd prysur yn y ddinas sy'n ganolbwynt i ddosbarthu nwyddaeth amaethyddol yn yr ardal. Er bod llawer o'r diwydiannau trwm wedi'u lleoli i ffwrdd o'r ddinas ei hunan, mae cyfnewidfa olew yno sy'n gyflogwr pwysig yn yr ardal. Mae'r ddinas wedi bod yn bwysig i forwyr ers yr Oes Rufeinig, cyrhaeddon nhw yn yr ail ganrif CC gan fanteisio ar safle da y ddinas. Erbyn y flwyddyn 62 OC, roedd Iwl Cesar wedi mynd i ymweld â'r lle a sefydlodd fasnach gyda Ffrainc, Lloegr a Phortiwgal.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.