Aberdâr
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Aberdâr Rhondda Cynon Taf |
|
Tref yng nghwm Cynon yn sir draddodiadol Morgannwg, ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, de Cymru yw Aberdâr (Aberdare yn Saesneg). Y boblogaeth yn 1991 oedd 31,619. Mae Aberdâr bedair milltir o Ferthyr Tudful a thua 24 milltir o Gaerdydd. Mae gwasanaeth rheilffordd rhwng Aberdâr a Chaerdydd trwy cwm Cynon.
Yng Nghwmbach Aberdâr y ffurfiwyd y gangen gyntaf o'r gymdeithas gydweithredol yng Nghymru, yn 1860.
Yn wreiddiol, ddechrau'r 19eg ganrif, roedd pentref Aberdâr mewn ardal amaethyddol, ond pan ddarganfuwyd llawer o lo a mwyn haearn yn yr ardal cynyddodd y boblogaeth yn gyflym iawn. Sefydlwyd gweithdai haearn yn Llwydcoed ac Abernant yn 1799 ac 1800, wedi'u dilyn gan eraill yn Gadlys ac Aberaman yn 1827 ac 1847. Nid ydy'r rhain wedi gweithio ers 1875. Cyn 1836, câi'r rhan fwyaf o'r glo ei ddefnyddio yn lleol, yn bennaf yn y gweithdai haearn, ond wedyn dechreuwyd allforio glo o dde Cymru. Yn ail hanner y 19eg ganrif, gwellodd y dref yn fawr.
Aberdâr oedd cartref un o feirdd yr Ail Ryfel Byd, Alun Lewis, ac mae dyfyniad o'i gerdd The Mountain over Aberdare i'w weld yn y dref. Dyma gartref y Stereophonics hefyd, sy'n dod o Gwmaman. Fel mae'n digwydd mae yna Aberdare yn Ne Cymru Newydd, Awstralia, sydd hefyd yn cynnwys pyllau glo.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberdâr ym 1861, 1885 a 1956. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1861
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1885
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1956
[golygu] Gefeilldrefi
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Clochdar Papur Bro Cwm Cynon (fel rhan o safwe y BBC)
- Clwb criced (yn Saesneg)
- Clwb cerdd (yn Saesneg)
- Clwb Rygbi Aberdâr Aberdare RFC (yn Saesneg)
- Fforwm Aberdâr Trafodaethau lleol (yn ddwyieithog)
- Julian Castaldi Un o brif artistiaid modern Aberdâr (yn Saesneg)
- Llyfrgell y dref
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Trefi a phentrefi Rhondda Cynon Taf |
Aberdâr | Aberpennar | Hirwaun | Llantrisant | Y Maerdy | Pontypridd | Y Porth | Tonypandy | Treherbert | Treorci |