Hirwaun
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Hirwaun Rhondda Cynon Taf |
|
Mae Hirwaun yn bentref ger Aberdâr yng nghwm Cynon, Rhondda Cynon Taf. Yn ôl y cyfrifiad diwethaf yn 2001, y mae rhyw 4,000 o drigolion yn byw yn y pentref a hynny'n tyfu o hyd wrth i fwy o ystadau tai newydd gael eu codi,
[golygu] Hanes
Y mae ganddi hanes diwydiannol cryf sydd wedi'i seilio ar weithgarwch mwyngloddio a gweithfeydd haearn, sydd â'u holion i'w gweld ger canol y pentref. Wedi'i lleoli ar gyrion y pentref y mae Glofa'r Twr, sef pwll glo dwfn olaf Cymru, ond bydd hwnna'n cau ymhen rhai blynyddoedd wrth i'r glo ddirwyn i ben.
[golygu] Dolenni Cyswllt
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Trefi a phentrefi Rhondda Cynon Taf |
Aberdâr | Aberpennar | Hirwaun | Llantrisant | Y Maerdy | Pontypridd | Y Porth | Tonypandy | Treherbert | Treorci |