Afon Guadalquivir
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Afon fawr yn Andalucia yn ne Sbaen yw Afon Guadalquivir. Mae'n rhedeg i gyfeiriad y de-orllewin yn gyffredinol o'i tharddle ym mynyddoedd Sierra de Segura i aberu yn y Cefnfor Iwerydd yng Ngwlff Cadiz. Gyda hyd o 560 km (348 milltir) hi yw'r afon fwyaf yn ne Sbaen.
Daw'r enw o'r Arabeg al-wād al-kabīr (الوادي الكبير), 'Yr Afon Fawr'. Ei hen enw oedd Betis (neu Baetis), o'r cyfnod cyn-Rufeinig hyd at gyfnod yr Al-Andalus Islamaidd, a roddodd ei henw i'r dalaith Rufeinig Hispania Baetica.
Mae'r dinasoedd ar ei glannau'n cynnwys Andújar, Córdoba, Sevilla a Jerez de la Frontera.
Credir fod dinas hynafol Tartessos wedi'i lleoli wrth aber yr afon, ond hyd yn hyn mae ei hunion safle'n aros yn ddirgelwch.
[golygu] Oriel
Afon Guadalquivir, Córdoba |
Bilidowcars ar Afon Guadalquivir (Parc Cenedlaethol Doñana) |