Amhrán na bhFiann
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
"Amhrán na bhFiann" ("Cân y Milwr") yw anthem cenedlaethol Gweriniaeth Iwerddon. Peadar Kearney ysgrifennodd y geiriau, a Kearney a Patrick Heeney y dôn. Cyhoeddwyd y gân am y tro cyntaf yn yr Irish Freedom yn 1912 (ond cyfansoddwyd y gân yn 1907). Roedd y gân yn anhysbys tan y cafodd ei chanu yn Swyddfa'r Post Cyffredinol (GPO) yng Ngwrthryfel y Pasg yn 1916, ac wedyn mewn gwersylloedd dalgadwraeth ym Mhrydain. Daeth yn anthem swyddogol y wladwriaeth yn 1926.
Mae'r anthem yn cynnwys y gytgan yn unig, (dechrau Sinne Fianna Fáil . . . tan . . . Amhrán na bhFiann. isod). Mae'r ddwy linell gyntaf, a'r ddwy linell olaf, yn ffurfio'r Cyfarchiad Llywyddol, sydd yn cael eu chwarae pan mae Arlywydd Iwerddon yn mynychu digwyddiadau.
Yn y blynyddoedd diweddar, mae rhai papurau newydd Gwyddelig wedi cynnig newid yr anthem am fod y geiriau'n rhy dreisiol a gwrth-Brydeinig, a bôd y dôn yn rhy anodd i fandiau ei chwarae yn iawn (fel mae tîmau chwaraeon Gwyddelig yn darganfod yn aml pan mae'r gân gyfan yn cael ei chwarae (nid ond y cytgan), neu pan mae'r darn iawn yn cael ei chwarae yn rhy gyflym neu yn rhy araf!).
[golygu] Geiriau
- Seo dhibh a cháirde duan Oglaigh,
- Cathréimeach briomhar ceolmhar,
- Ár dtinte cnámh go buacach táid,
- 'S an spéir go min réaltogach
- Is fonnmhar faobhrach sinn chun gleo
- 'S go tiúnmhar glé roimh thíocht do'n ló
- Fé chiúnas chaomh na hoiche ar seol:
- Seo libh canaídh Amhrán na bhFiann.
-
- Cytgan
- Sinne Fianna Fáil
- A tá fé gheall ag Éirinn,
- buion dár slua
- Thar toinn do ráinig chugainn,
- Fé mhóid bheith saor.
- Sean tír ár sinsir feasta
- Ní fhagfar fé'n tiorán ná fé'n tráil
- Anocht a théam sa bhearna bhaoil,
- Le gean ar Ghaeil chun báis nó saoil
- Le guna screach fé lámhach na bpiléar
- Seo libh canaídh Amhrán na bhFiann.
- Cois bánta réidhe, ar árdaibh sléibhe,
- Ba bhuachach ár sinsir romhainn,
- Ag lámhach go tréan fé'n sár-bhrat séin
- Tá thuas sa ghaoith go seolta
- Ba dhúchas riamh d'ár gcine cháidh
- Gan iompáil siar ó imirt áir,
- 'S ag siúl mar iad i gcoinne námhad
- Seo libh, canaídh Amhrán na bhFiann.
-
- Cytgan
- A bhuíon nách fann d'fhuil Ghaeil is Gall,
- Sin breacadh lae na saoirse,
- Ta scéimhle 's scanradh i gcroíthe namhad,
- Roimh ranna laochra ár dtire.
- Ár dtinte is tréith gan spréach anois,
- Sin luisne ghlé san spéir anoir,
- 'S an bíobha i raon na bpiléar agaibh:
- Seo libh, canaídh Amhrán na bhFiann.
-
- Cytgan
[golygu] Cyfieithiad answyddogol i'r Gymraeg
- Canwn gân, cân milwr,
- Gyda chytgan bywiog llon,
- Tra ymgasglwn wrth ein coelcerthi o dân,
- Y nefoedd serennog uwch ein pennau;
- Yn ddiamynedd am y brwydr i ddod,
- Ac fel arhoswn olau'r bore,
- Yma yn nhawelwch y nos,
- Datganwn gân milwr.
-
- Cytgan
- Milwyr ydym ni
- Wedi addo ein bywydau i Iwerddon;
- Mae rhai wedi dod
- O dir dros y don.
- Wedi tyngu i ddod yn rhydd,
- Ni fydd gwlad hynafol ein tadau
- Yn cysgodi'r unben na'r caethwas.
- Heno criwiwn bwlch peryglus
- Mewn achos Erin, am ddrwg neu dda
- Rhwng rhuo'r canonau a sain y reiffl
- Datganwn gân milwr.
- Mewn dyffryn las, ar carreg dyrog,
- Ymladdodd ein tadau o'n blaen,
- Gorchfygodd o dan yr un faner hen
- Sy'n hofran falch uwch ein pennau.
- Plant hil ymladd ydym ni,
- Sydd byth wedi gwybod gwarth,
- Ac fel gorymdeithiwn i wynebu'r gwrthwynebydd,
- Datganwn gân milwr.
-
- Cytgan
- Meibion y Gael! Dynion y Polyn!
- Mae'r dydd hir-wyliedig yn gwawrio;
- Bydd rhengoedd clòs Inisfail
- Yn gwneud i'r Gormeswr grynu.
- Mae tanau ein gwersyll yn llosgi'n isel;
- Gwelwch yn y ddwyrain dywyn ariannaidd,
- Dacw'r gelyn o Saes yn disgwyl,
- Datganwn gân milwr.
-
- Cytgan