Wicipedia:Beth ydy erthygl
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Tudalen yw erthygl Wicipedia sydd yn cynnwys gwybodaeth gwyddoniadurol neu almanac (rhestri, llinellau amser, tablau, siartau, ayyb.). Gwelwch Arbennig:Pob_tudalen am restr o erthyglau sydd ar Wicipedia.
Nid erthygl yw tudalen yn un o'r parthau a ddefnyddir at bwrpas arbennig megis
- y parth Wicipedia, ar gyfer materion Wicipedia e.e. Wicipedia:Ystadegau Wicipedia Cymraeg a'i thudalen siarad Sgwrs Wicipedia:Ystadegau Wicipedia Cymraeg.
- y parth Sgwrs ar gyfer trafod cynnwys y dudalen berthnasol, e.e. Sgwrs:Hafan
- y parth Arbennig ar gyfer tudalennau a grëir gan y meddalwedd yn ôl y gofyn.
- y parth MediaWici ar gyfer testun y rhyngwyneb ar Wicipedia, e.e. MediaWici:Removedwatch.
- y parth Nodyn ar gyfer nodion y gellir eu gosod mewn nifer o erthyglau ar unwaith. Pan newidir y nodyn newidir yr holl erthyglau sy'n defnyddio'r nodyn ar unwaith, e.e. Nodyn:Cymraeg.
- y parth Categori a ddefnyddir i fynegeio a threfnu erthyglau Wicipedia, e.e. Categori:Categorïau.
- y parth Defnyddiwr ar gyfer tudalennau lle gall defnyddwyr cofrestredig ysgrifennu, pob un a'i dudalen ei hunan; gweler rhestr y defnyddwyr
- y parth Delwedd ar gyfer lluniau, e.e. enghraifft.
At hynny nid ystyrir bod pob tudalen yn y prif barth ar gyfer erthyglau yn erthygl. Nid erthyglau yw'r canlynol:
- yr Hafan
- tudalennau heb gyswllt wici mewnol ynddynt.
- tudalennau gwahaniaethau a ddefnyddir i wahaniaethu rhwng ystyron gwahanol un gair.
- tudalennau ailgyfeirio sy'n cynorthwyo'r darllenydd i ddod o hyd i erthygl.
Diffiniad erthygl ar gyfer y meddalwedd ar Arbennig:Ystadegau yw tudalen sydd yn y prif barth nad ydy'n dudalen ailgyfeirio ac sy'n cynnwys o leiaf un cyswllt wici. Mae'r diffiniad yn cynnwys egin erthyglau a thudalennau gwahaniaethu.
Mae tudalennau yn y parthau uchod heblaw am y prif barth yn ymddangos ar sgrin lliw melyn (pan mae'r meddalwedd wedi cael ei osod i wneud hyn), ond mae tudalennau normal y prif barth yn ymddangos ar sgrin gwyn.
Gweler hefyd: Wicipedia:Cwestiynau Cyffredin