Cadwyn fwyd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mewn ecoleg, trefn creaduriaid sy'n dangos y ffwrdd trosglwyddo egni mewn ecosystem trwy bwydo yw cadwyn fwyd neu perthynas bwydo.
Enghraifft cadwyn fwyd ("-->" yw "mae'n fwyt i"): algae --> protist --> sgwid --> morlo --> orca. Yn yr enghraifft mae pum lefel droffig achos mae'r egni yn llifo trwy pum organeb. Mae'r egni yn lleihau pob amser achos dydy'r anifeiliaid ddim yn bwyta'r holl organeb, achos mae'r anifeiliaid yn defnyddio egni i symudio ac achos mae gwastraff egni trwy gwres.
Yn le y term "cadwyn fwyd" mae rhai pobl yn defnyddio'r term gwe fwydydd, achos mae perthynas bwydo yn mwy gymhleth nag cadwyn, gyda nifer o anifeiliaid yn bwyta'r un fath o bwyd ac ar un pryd pob anifail yn bwyta mwy nag un bwyd. Mae hefyd yn bosib fod y cadwyn fwyd yn cylchred (gweler hefyd: y gylchred carbon a'r cylchred nitrogen).
Mae'n bosib fod llygryddion yn cael eu drosglwyddo dros cadwyn fwyd a felly achosi problemau, ond er mwyn deall y cyfanswm llygryddion mewn cadwyn fwyd mae'n rhaid i ystiried y pyramid biomas, sy'n dangos pa mor bwyt sy wedi ei fwyta.
[golygu] Trefn cadwyn fwyd
- Cynhyrchydd: Planhigion gwyrdd (mae'n cynhyrchu egni trwy ffotosynthesis)
- Ysydd:
- Llysysyddion (anifeiliaid sy'n bwyta ddim ond planhigion)
- Cigysyddion (anifeiliaid sy'n bwyta ddim ond cig)
- Hollysyddion (anifeiliaid sy'n bwyta planhigion a chig)
- Dadelfennyddion (anifeiliaid sy'n bwyta planhigion ac anifeiliaid wedi marw neu tail ac yn torri nhw i lawer, e.e. mwydod neu bacteria)