Carlo Borromeo
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cardinal Eglwys Rhufain oedd Carlo Borromeo (2 Hydref 1538 - 4 Tachwedd 1584). Chwaraeodd rôl bwysig yng Nghyngor Trent ym mis Ionawr 1562. Daeth yn Archesgob Milan ym 1565, lle cyflwynodd ddiwygiadau gweinyddol sylweddol. Roedd yn arweinydd brwd y Gwrthddiwygiad, gan deithio i'r Swistir yn y frwydr yn erbyn Protestaniaeth. Yn ystod y pla yn Milan ym 1576 aeth allan yn gyson ar y strydoedd i ddosbarthu elusennau i'r anghenus. Bu farw yn 46 oed, a chafodd ei ganoneiddio fel sant ym 1610.
Roedd Gruffydd Robert yn gweithio iddo fel cyffeswr a chanon duwinyddol o ganol y 1560au tan 1582.