Ernest Jones
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd Alfred Ernest Jones (1 Ionawr, 1879 – 1 Chwefror, 1958) yn seiciatrydd Cymreig ac yn ddisgybl i Sigmund Freud. Ef oedd yn bennaf gyfrifol am ledaenu syniadau ei athro i'r Deyrnas Unedig ar Unol Daleithiau.
Ganwyd yn Rhosfelyn, Morgannwg, ac addysgwyd ef yn gyntaf yn Ysgol Ramadeg Abertawe ac yna yn Llundain a Chaerdydd. Ym 1907, tra yn Wien, daeth yn ddisgybl i'r enwog Freud. Gadawodd y cyfandir ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a dychwelodd i Lundain, lle sefydlodd y Gymdeithas Seicoanalytig Brydeinig ym 1919. Pan y bu rhaid i Freud adael Awstria yn sgil yr Anschluss ym 1938, bu Ernest Jones yn gymorth iddo wrth iddo ymsefydlu yn Llundain yn ei flwyddyn diwethaf cyn ei farwolaeth ym 1939.
Roedd Ernest Jones hefyd yn ymddiddori yng ngwleidyddiaeth ac yn aelod cynnar o Blaid Cymru. Ei wraig gyntaf oedd y cyfansoddwraig Morfudd Llwyn Owen. Ei lyfr sylweddol diwethaf oedd bywgraffiaeth swyddogol Freud, a'i gyhoeddwyd o 1953 i 1957.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.