Wien
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Prifddinas Awstria yw Wien neu Fienna (Wien yn Almaeneg). Mae Fienna/Wien hefyd yn enw ar un o daleithiau'r wlad (Bundesland Wien). Mae'r ddinas, sy'n gorwedd ar lan Afon Donaw, yn ganolfan ddiwylliannol a gwleidyddol o bwys. Mae tua 1.5 miliwn o bobl yn byw yno. Hi yw'r dref fwya'r wlad.
Lleolir pencadlysoedd Mudiad Datblygiad Diwydiant y Cenhedloedd Unedig (UNIDO), Mudiad y Gwledydd Cynhyrchu ac Allforio Olew (OPEC) a'r Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol (IAEA) i gyd yn Fienna/Wien.
[golygu] Hanes
Sefydlwyd Wien gan y Celtiaid tua 500 cyn Crist ac yn 15 C.C. roedd hi'n dref yn yr Ymerodraeth Rufeinig o'r enw Vindobona. Yn y Canol Oesoedd roedd y teuluoedd Babenberg a Habsburg yn byw yn Fienna ac roedd hi'n brifddinas i'r Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd ac yn ddiweddarach i Ymerodraeth Awstria-Hwngari. Roedd yr Ymerodraeth Ottoman yn ymosod ar Ewrop yn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg, ond wnaethon nhw ddim dod ymhellach i'r gorllewin. Ym 1815 cynhaliwyd Cyngres Wien (-> enw iawn?) ar ôl gorchfygiad Napoleon Bonaparte ym Mrwydr Waterloo.