Hanes De Affrica
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Wrth ystyried hanes De Affrica ceir nifer o safbwyntiau gwahanol gan ysgolheigion a brodorion gan fod De Affrica yn wlad amlddiwylliannol. (Gweler demograffeg De Affrica a diwylliant De Affrica.)
[golygu] Prydeinwyr cynnar
Yn ystod y Rhyfeloedd Napoleonig yn Ewrop, meddiannodd Ffrainc yr Iseldiroedd, a meddiannodd y Deyrnas Unedig rhanbarth Penrhyn Gobaith Da dwywaith, yn 1795 a 1806. Yn 1814, tua diwedd oes yr ymladd yn Ewrop, prynodd y DU Gwladfa'r Penrhyn o'r Iseldirwyr am £6 miliwn. Ar ôl 1820 ymfudodd miloedd o Brydeinwyr i Dde Affrica, a mynnon nhw bod cyfraith Brydeinig yn cael ei gorfodi yn y wlad. Daeth Saesneg yn y iaith swyddogol yn 1822, rhoddwyd amddiffyniad i'r Khoikhoi, a diddymwyd caethwasiaeth yn 1833.
[golygu] Gweriniaethau'r Boeriaid
Teimladau chwerw oedd gan y Boeriaid o ganlyniad i'r mesurau hyn, ac arweiniodd at y Daith Fawr, pan fudodd rhyw 10 000 o Foeriaid i ogledd De Affrica rhwng 1836 a 1838. Mudodd y voortrekkers (rhagredegyddion) yma i'r ddwyrain a'r gogledd, a chyfaneddodd am y ffordd â'r Afon Oren, yr Afon Vaal, ac yn Natal. Yn dilyn ymosodiadau milwrol yn 1836 gyrron nhw llwyth y Ndebele tu hwnt i'r Afon Limpopo ac yn 1838 trechon nhw'r Zulu ym Mrwydr Afon Bloed cyn sefydlu cyfres o aneddiadau yn y rhanbarth. Meddiannodd y Prydeinwyr, a oedd yn dymuno cadw rheolaeth dros y voortrekkers, rhanbarth arfordirol Natal a sefydlodd Diriogaeth y Goron yna yn 1843.
Gadawodd y mwyafrif o Foeriaid Natal ac aethant i'r gogledd a'r gorllewin, lle sefydlon nhw gweriniaethau'r Wladwriaeth Rydd Oren a Thransvaal. Llechfeddiannodd y Prydeinwyr tiroedd y Xhosa ar hyd oror dwyreiniol y Penrhyn mewn cyfres o ryfeloedd gwaedlyd. Ennillodd lywodraethwr Gwladfa'r Penrhyn, Syr Harry Smith, rheolaeth dros diriogaeth yr Afon Oren yn 1848. Ond gwadwyd ei bolisïau imperialaidd gan lywodraeth Brydeinig a oedd yn awyddus i gwtogi ei hymrwymiad yn Ne Affrica. Cydnabuodd Brydain annibyniaeth Boeriaid y Transvaal yn Nghytundeb Afon Sand 1852, ac annibyniaeth y Wladwriaeth Rydd Oren yn Nghytundeb Bloemfontein 1854.
Erbyn hwyr y 1850au cyfunwyd diriogaethau Boeriaid y Transvaal tu hwnt i'r Afon Vaal yn swyddogol fel y Weriniaeth Dde Affricanaidd, neu Weriniaeth Transvaal. Er fu geisiadau i uno'r weriniaeth a'r Wladwriaeth Rydd Oren yn ofer, cadwodd y ddwy weriniaeth Foer cysylltiadau agos yn y blynyddoedd olynol.