Heinrich Harrer
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mynyddwr, fforiwr ac awdur oedd Heinrich Harrer (6 Gorffennaf, 1912 - 7 Ionawr, 2006). Yn enedigol o Awstria, mae'n enwog am fod yn un o'r pedwar dringwr a ddringodd wyneb gogleddol yr Eiger am y tro cyntaf. Yr oedd yn dringo yn yr Himalaya pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, a chymerwyd ef yn garcharor gan y Prydeinwyr. Llwyddodd i groesi i Tibet lle bu'n byw am rai blynyddoedd, gan ddod i adnabod y Dalai Lama. Ysgrifennodd lyfr Saith Mlynedd yn Tibet a ystyrir yn glasur, ac a wnaed yn ffilm yn nes ymlaen.
[golygu] Llyfryddiaeth
- The White Spider
- Seven Years in Tibet (1953)
- Lost Lhasa
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.