Ieuan Wyn Jones
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gwleidydd yw Ieuan Wyn Jones (ganwyd 22 Mai 1949).
Cafodd ei eni yn Ninbych. Aeth i Ysgol Ramadeg Pontardawe, ac Ysgol y Berwyn, Y Bala. Cafodd yrfa fel cyfreithiwr o 1974 tan 1987.
Cynrychiolodd Sir Fôn fel aelod seneddol dros Blaid Cymru o 1987 hyd 2001 ac yn y Cynulliad o Fai 1999 tan heddiw. Daeth yn Llywydd Plaid Cymru yn dilyn ymddeoliad Dafydd Wigley fel Llywydd. Yn dilyn etholiad 2003 daeth Dafydd Iwan yn Llywydd, ac etholwyd Ieuan Wyn Jones yn Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.