Kim Jong-il
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Kim Jong-il (dyddiad geni swyddogol - 16 Chwefror, 1942, ger Mynydd Paekdu; anwswyddogol - 1941, yn Siberia, yn yr hen Undeb Sofietaidd lle bu ei dad yn alltud) yw arweinydd unbennaethol Gogledd Corea.
Mab ac olynydd y cyn arweinydd Kim Il-sung ydyw. Ychydig sy'n bysbys amdano am fod llywodraeth y wlad mor gyfrinachol. Fel mab ac "etifedd" yr arweinyddiaeth ymddengys iddo gael mabolaeth freintiedig a chafodd enw am fod yn "playboy" a wisgai sgidiau platfform er mwyn edrych yn dalach.
Wedi i'w dad farw yn 1994 llwyddodd Kim Jon-il i aros mewn grym ac yn 1997 cafodd ei enwi'n ysgrifennydd Plaid Gomiwnyddol Gogledd Corea. Erbyn hynny roedd y wlad yn fwy ynysig nag erioed, yr economi yn llanast a'r werin yn newynu i farwolaeth wrth eu miloedd.
Mae Kim Jong-il wedi rhoi'r flaenoriaeth ar ymdrechion Gogledd Corea i gael arfau niwclear gan ennill dig gweddill y byd. Dywedodd George W. Bush yn 2002 fod Gogledd Corea yn rhan o Echel y Fall (gyda Iran ac Irac).
Gelwir Kim Jong-il "Yr Arweinydd Annwyl" yn swyddogol ("Yr Arweinydd Mawr" oedd ei dad). Dywedir ei fod yn 5'2", yn yfed cognac Hennessey ac yn perchen 20,000 o ffilmiau; ymhlith ei ffefrynnau y mae ffilmiau James Bond.