Menyn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gwneir menyn allan o hufen. Mae'n fraster (80 %) sydd yn cynnwys dŵr a phrotein llaeth. Defnyddir menyn yn yr un modd ag olew, lard a margarîn i baratoi bwyd, er enghraifft i goginio. Ychwanegir halen, hefyd yn aml.
Mae menyn yn meddalu mewn tymheredd ystafell, ac yn ymdoddi'n hawdd. Mae lliw menyn yn dibynnu ar fwyd y fuwch a gall fod yn felyn neu'n wyn. Fel arfer, mae menyn yn felyn yn ystod yr haf pan mae'r buchod yn bwyta llawer o laswellt ffres ac yn wyn yn ystod y gaeaf pan maen'n bwyta gwair yn bennaf.