Nazım Hikmet
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bardd a dramodydd comiwnyddol o Dwrci oedd Nazım Hikmet Ran (IPA:nɑ'zɯm hik'met]]) (20 Rhagfyr, 1901 – 3 Mehefin, 1963). Cyfieithwyd ei waith i sawl iaith.
[golygu] Bywyd
Fe'i ganwyd yn Selânik yn Ymerodraeth yr Otomaniaid (Thessaloniki, Gwlad Groeg erbyn hyn). Daeth yn aelod o'r blaid gomiwnyddol TKP, a chafodd ei alltudio a'i garcharu sawl gwaith achos o'i egwyddorion gwleidyddol.
Wedi gyfnod o fyw yn Moskva, fe ddychwelodd i Dwrci ym 1928 ar ol ymweld â chynhadledd yn Wien, a chafodd ei garcharu am dri mis. Fe'i carcharwyd eto ym 1933, a chafodd ei ryddhau mewn amnest yn 1934. Ym 1938, fe'i cafwyd yn euog o annog gwrthryfel ymysg myfyrwyr y byddin (am iddynt ddarllen ei farddoniaeth), ac fe'i dedfrydiwd i wyth mlynedd ar hugain a phedwar mis o garchariad gyda llafur caled. Cafodd ei ryddhau o'r diwedd ym 1950 (eto fel rhan o amnest gyffredinol), wedi iddo fynd ar streic ympryd ac i lawer ymgyrchu drosdo. Roedd yn sal erbyn hynny, gyda phroblemau gyda'i iau a'i galon. Derbyniodd yr Wobr Heddwch Rhyngwladol a ddyfarnwyd gan Gyngor Heddwch y Byd ym 1950, ynghyd â Pablo Picasso, Paul Robeson, Wanda Jakubowska a Pablo Neruda. Bu'n rhaid iddo adael Twrci ym 1951, ac ni ddychwelodd wedi hynny. Treuliodd rhan fwyaf o gyfnod olaf ei fywyd yn Yr Undeb Sofietaidd, er iddo ymweld â China a Paris. Bu farw ym Moskva ym 1963.
Bu iddo briodi tair gwaith, yn gyntaf i Pirayé İçin, yna i Münevver Andaç (cawsant fab, Mehmet), ac yna i Vera Tulyakova.
[golygu] Ei farddoniaeth
Er i'w gerddi cynnar defnyddio mesurau sillafog, roedd cysyniadau ei farddoniaeth yn anghonfensiynol o'r dechrau. Weithiau ysgrifennodd mewn gwers rhydd, weithiau fe gymerodd ffurf traddodiadol fel y rubaiyat a'i addasu i'w anghenion. Manteisiau'n gyson ar sain gyfoethog y Tyrceg. Fe'i dylanwadwyd gan Mayakovski a'r beirdd Sofietaidd hynny a hyrwyddodd dyfodoliaeth. Gosododd Zülfü Livaneli llawer o'i gerddi i gerddoriaeth.
[golygu] Dolenni allanol
- Nâzım Hikmet Ran Poet du monde ;
- N.Hikmet yn darllen ei gerdd Kerem Gibi
- Nâzım Hikmet; casgliad o gerddi, hanesion, lluniau ac yn y blaen, yn Dyrceg a Saesneg.
- Zülfü Livaneli.
- (Saesneg) Artistiaid yn gwynebu'r gwaharddiad ar waith Nazım.
- http://nazimusta.com/