Owain Glyndŵr
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yn ddisgynydd i dywysogion Powys, Owain Glyndwr neu Owain ap Gruffudd (1354-c.1416) oedd y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru.
Sycharth, ger Llansilin, Powys oedd ei etifeddiaeth; trwy ei fam roedd yn hawlio tiroedd Rhys ap Gruffydd, (yr Arglwydd Rhys). Astudiodd y gyfraith yn Llundain, a gwasanaethodd gyda lluoedd Henry Bolingbroke, gwrthwynebwr y Brenin Rhisiart II o Loegr, a fyddai'n ddiweddarach y brenin Harri IV o Loegr.
Fe sylweddolodd fod gormes Lloegr yn difa'r economi Gymreig ac yn sbarduno atgasedd at y Saeson.
Ym mis Medi 1400, flwyddyn ar ol i Harri feddianu gorsedd Lloegr, dechreuodd ffrae rhwng Glyndŵr a'i gymydog Reynold, yr Arglwydd Grey o Ruthun, a ddatblygodd yn gyflym i fod yn wrthryfel dros annibyniaeth i Gymru. Ar Ddydd Gŵyl Mathew (23 Medi 1400) llosgodd Glyndŵr dref Rhuthun i gyd i lawr, heblaw'r castell. Priododd Margaret Hanmer, a oedd yn ferch i Syr David Hanmer, ac yn aelod o deulu a oedd yn garedig i'r boblogaeth leol, ac am gyfnod fe fu Owain yn dilyn bywyd tawel heddychlon.
Ffurfiodd gynghrair strategol gyda gwrthwynebwyr mwyaf nerthol Harri. Carcharodd Edmund Mortimer, ewythr 5ed Iarll y Mers (Sir Gaergrawnt), a oedd yn hawlio gorsedd Lloegr, ym 1402.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Bywgraffiad
[golygu] Ei Fywyd Cynnar
Fe'i ganwyd i deulu cefnog yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Roedd ei dad Gruffydd Fychan yn etifedd i dywysogion Powys Fadog. Bu farw ei dad rywbryd cyn 1370 gan adael ei fam Elen ferch Tomos ap Llywelyn o Ddeheubarth yn weddw. Mae'n debyg bod Owain wedi treulio rhywfaint o'i blentyndod yng nghartref Syr David Hanmer. Bu yn Llundain yn astudio'r gyfraith am rai blynyddoedd. Mae'n bur debyg ei fod yn Llundain adeg Gwrthryfel y Werin yn 1381.
[golygu] Cwymp Richard II a'r Gwrthryfel Cymreig
[golygu] Yr Anghydfod Gyda De Grey
[golygu] Y Gwrthryfel, 1400 - 1415
[golygu] 1400
Ar 16 Medi, 1400, gweithredodd Owain, a chafodd ei gyhoeddi'n Dywysog Cymru gan ei gefnogwyr. Roedd hyn yn ddatganiad chwyldroadol ynddo ei hun. Ymledodd yr ymyrch drwy'r gogledd-ddwyrain. Erbyn 19 Medi, ymosodwyd ar Ruthun, cadarnle de Grey, a bu bron iawn iddo gael ei dinistrio. Ymosodwyd ar Ddinbydh, Rhuddlan, castell y Fflint, Penarlag, a Holt yn fuan ar ôl hynny. Ar 22 Medi cafodd dref Croesoswallt ei difrodi mor ddrwg gan gyrch Owain fel y bu rhaid ei ail-siarteru yn ddiweddarach. Erbyn y 24ain, roedd Owain yn symud i'r de trwy Bowys a dinistriodd y Trallwng. Ar yr un pryd lawnsiodd y brodyr Tudur, o Benmynydd ar ynys Môn, gyfres o ymosodiadau "guerilla" yn erbyn y Saeson. Roedd y Tuduriaid yn deulu blaenllaw o Fôn ac wedi mwynhau perthynas agos â Rhisiart II (bu Gwilym a Rhys ap Tudur yn gapteiniaid saethwyr bwa yn ystod ymgyrchoedd Rhisiart yn Iwerddon). Newidiasant eu teyrngarwch i Owain Glyndŵr wrth i'r rhyfel ymledu.
Troes Harri IV - oedd ar ei ffordd i geisio goresgyn yr Alban - ei fyddin o gwmpas ac erbyn 26 Medi roedd wedi cyrraedd Amwythig ac yn barod i ymosod ar Gymru. Mewn cyrch cyflym ond difudd arweiniodd Harri ei fyddin o amgylch gogledd Cymru. Cafodd ei boeni'n gyson gan dywydd drwg ac ymosodiadau guerilla gwŷr Glyndŵr. Erbyn 15 Hydref, roedd yn ôl yn Amwythig, heb fawr i'w ddangos am ei ymdrechion.
[golygu] 1401
[golygu] 1402
[golygu] 1403
[golygu] 1404
Cynhaliwyd cynnulliad ym Mhennal, ger Machynlleth ym mis Mawrth, 1406, ac yno lluniwyd dogfen yn gosod allan bwriadau'r tywysog ynghyd â llythyr i'r Brenin Siarl VI o Ffrainc; adnebyddir y dogfennau pwysig hyn fel Polisi Pennal.
[golygu] Marw Owain
[golygu] Yr Adladd
[golygu] Yr Etifeddiaeth
[golygu] Ffuglen
- John Cowper Powys - Owen Glendower (1940)
- Martha Rofheart: Cry God for Glendower (1973)
- Edith Pargeter: A Bloody Field by Shrewsbury (1972)
- Malcolm Pryce: A Dragon to Agincourt - Y Lolfa ISBN 0-86243-684-2
[golygu] Llyfryddiaeth
- D. Helen Allday, Insurrection in Wales (Lavenham, 1981)
- A.G. Bradley, Owen Glyndwr and the Last Struggle for Welsh Independence (Efrog Newydd, 1902)
- R.R. Davies, The Revolt of Owain Glyndŵr (Rhydychen, 1995). ISBN 0198205082
- Elissa R. Henken, National Redeemer: Owain Glyndŵr in Welsh Tradition (Caerdydd, 1996). ISBN 070831290
- J.E. Lloyd, Owen Glendower
- T.Mathews, Welsh Records in Paris (Caerfyrddin, 1910).