Pennal
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Pennal yn bentref yn ne Gwynedd. Saif ar y briffordd A493 rhwng Tywyn a Machynlleth, ac ar lan ogleddol Afon Dyfi.
Mae gan Pennal nifer o gysylltiadau hanesyddol. Yr oedd ffordd Rufeinig Sarn Helen yn mynd heibio'r fan, ac yr oedd caer Rufeinig fechan yma, efallai yn gwarchod man croesi Afon Dyfi. Ni ellir gweld gweddillion y gaer, maent wedi eu gorchuddio gan dŷ Cefn Caer i'r de-ddwyrain o'r pentref, yn nes i'r afon.
Ym Mhennal y galwodd Owain Glyndŵr gyfarfod yn Mawrth 1406 ac ysgrifennu llythyr i frenin Ffrainc a adwaenir fel "Llythyr Pennal" ac sy'n ffurfio rhan o Bolisi Pennal. Roedd y llythyr yn amlinellu cynlluniau Glyndŵr ar gyfer Cymru annibynnol. Dychwelwyd y llythyr i Gymru o Ffrainc am gyfnod yn 2000, ar gyfer arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae ymgyrch i geisio ei gael yn ôl i Gymru yn barhaol. Mae gardd goffa i dywysogion Cymru yn y pentref.
Yn nechrau'r 19eg ganrif yr oedd Pennal o bwysigrwydd fel porthladd ar gyfer chwareli llechi Corris, Aberllefenni ac Abergynolwyn. Roedd y llechi'n cael eu cludo o'r chwareli ar gefn ceffylau i'w llwytho i gychod ar yr afon. Daeth hyn i ben pan adeiladwyd Rheilffordd Corris i Fachynlleth a Rheilffordd Talyllyn i Dywyn.