Owain Gwynedd
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Owain ap Gruffudd ap Cynan, a elwid yn Owain Gwynedd, (1100 - 28 Tachwedd, 1170) oedd tywysog Gwynedd o 1137 tan ei farwolaeth. Yn fab i Gruffudd ap Cynan, a fu'n dywysog cryf ar Wynedd am 62 o flynyddoedd, etifeddodd Owain rhan o'r deyrnas yn 1137 gyda'i frodyr, ond wedi 1143 llywodraethodd ef y mwyafrif o ogledd Cymru, a llawer o'r de hefyd.
Roedd pethau yn mynd yn dda tan dechreuoedd y brenin Seisnig, Harri II, geisio goresgyn Gwynedd yn 1157, 1163 a 1165. Roedd y Pab yn cefnogi Harri am fod Owain wedi priodi ei gyfnither, Cristin, ac yn ogystal nid oedd Owain yn barod i adael Archesgob Caergaint rheoli'r eglwys yng Nghymru. Cafodd Owain ei ysgymuno mewn canlyniad. Doedd ymgyrchoedd Harri ddim yn llwyddianus.
Bu farw Owain Gwynedd ar yr 28ain Tachwedd 1170, a chafodd ei gladdu yn yr eglwys gadeiriol ym Mangor.
[golygu] Meibion
Cafodd Owain saith o feibion, sef Hywel (y bardd-dywysog, m. 1170), Iorwerth Drwyndwn (tad Llywelyn Fawr), Rhun (m. 1146), Maelgwn, Dafydd (m. 1203), Rhodri (m. 1195, hendaid Senana gwraig Gruffudd ap Llywelyn a mam Llywelyn ein Llyw Olaf), a Chynan (tad Gwerful Goch a gorhendaid i Fadog ap Llywelyn, arweinydd gwrthryfel y gogledd yn erbyn y gorsgyniaid Seisnig yn 1294-1296).