Rhestr beirdd Cymraeg c.550-1600
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae hyn yn rhestr o'r beirdd Cymraeg hysbys a ganai ar y mesurau caeth yn bennaf rhwng canol y 5fed ganrif a diwedd yr 16eg ganrif. Sylwer nad yw'n cynnwys Canu Rhydd y cyfnod diweddar, sef o tua 1550 ymlaen, ond mae'n cynnwys ychydig o feirdd a flodeuai ar ddechrau'r 17eg ganrif ond sy'n perthyn yn uniongyrchol i'r hen draddodiad barddol. Sylwer yn ogystal fod llawer o ganu'r cyfnodau cynnar yn waith beirdd anhysbys, e.e. yn achos canu crefyddol cynnar a cherddi gnomig a chwedlonol. Anwybyddir hefyd y Canu Darogan, a dadogir yn aml ar y Taliesin chwedlonol, Myrddin a ffigurau eraill.
Taflen Cynnwys |
[golygu] c.550-1100
Mae enwau'r beirdd nad yw eu gwaith wedi goroesi yn cynnwys Cian, Blwchfardd, Culfardd, Tristfardd ac Arofan. Mae'r rhan fwyaf o'r cerddi o'r cyfnod a elwir "Canu'r Bwlch" yn gynnyrch beirdd dienw. Mae rhai awdurdodau'n derbyn Afan Ferddig fel awdur moliant i Gadwallon ap Cadfan. Cydnabyddir erbyn heddiw nad yw Llywarch Hen yn ffigwr hanesyddol. Mae gwaith y beirdd canlynol wedi goroesi. Maent yn perthyn i gyfnod yr Hengerdd, a adwaenir hefyd fel cyfnod y Cynfeirdd.
- Aneirin (c.550)
- Taliesin (ail hanner y 6ed ganrif)
- Afan Ferddig (7fed ganrif efallai)
[golygu] 1100-1290
Arferid galw y beirdd llys hyn Y Gogynfeirdd ond erbyn heddiw aferir yr enw Beirdd y Tywysogion. Mae'r rhestr bron iawn yn gronolegol.
- Meilyr Brydydd (fl. 1100-1147)
- Gwalchmai ap Meilyr (fl. 1130-1180)
- Meilyr ap Gwalchmai (fl. ail hanner y 12fed ganrif)
- Llywelyn Fardd I
- Hywel ab Owain Gwynedd (m. 1170)
- Owain Cyfeiliog (Owain ap Gruffudd ap Maredudd, c.1130-1197)
- Llywarch Llaety (fl. 1140-1160)
- Llywarch y Nam (enw arall ar Llywarch Llaety, efallai)
- Daniel ap Llosgwrn Mew (fl. 1170-1200)
- Peryf ap Cedifor (neu Peryf ap Cedifor Wyddel, fl. 1170)
- Seisyll Bryffwrch (fl. 1155-1175)
- Gwynfardd Brycheiniog (fl. 1176)
- Gwilym Rhyfel (fl. 1174)
- Gruffudd ap Gwrgenau (fl. diwedd y 12fed ganrif)
- Cynddelw Brydydd Mawr (fl. 1155-1200)
- Llywarch ap Llywelyn ("Prydydd y Moch") (fl. 1137-1220)
- Elidir Sais (fl. 1195-1246)
- Einion ap Gwalchmai (fl. 1203-1223)
- Einion Wan (fl. 1230-1245)
- Llywelyn Fardd II
- Philyp Brydydd (fl. 1222)
- Gwgan Brydydd
- Einion ap Gwgan (fl. 1215)
- Gwernen ap Clyddno
- Goronwy Foel (fl. tua chanol y 13eg ganrif)
- Einion ap Madog ap Rhahawd (fl. 1237)
- Dafydd Benfras (fl. 1230-1260)
- Y Prydydd Bychan (c.1220-1270)
- Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel (c.1240-1300)
- Llygad Gŵr (fl. 1268)
- Iorwerth Fychan
- Madog ap Gwallter (fl. ail hanner y 13eg ganrif)
- Gruffudd ab Yr Ynad Coch (fl. 1280)
- Bleddyn Fardd (fl. 1268-1283)
[golygu] 1290-1500
Dyma Beirdd yr Uchelwyr. Mae'r rhestr yn dilyn trefn amser ond nid yw'n gynhwysfawr gan fod gwaith rhai o feirdd llai diwedd y 15fed ganrif a'r 16eg ganrif yn aros yn y llawysgrifau. Anwybyddir hefyd enwau traddodiadol beirdd canu darogan ac eithrio rhai enwau beirdd hysbys.
- Casnodyn
- Gruffudd ap Dafydd ap Tudur (fl. 1300)
- Gwilym Ddu o Arfon (fl. 1280 - 1320)
- Trahaearn Brydydd Mawr
- Iorwerth Beli
- Gronw Gyriog
- Iorweth ab Y Cyriog
- Mab Clochyddyn
- Gruffudd ap Tudur Goch
- Ithel Ddu
- Einion Offeiriad
- Dafydd Ddu o Hirarddug
- Bleddyn Ddu
- Llywelyn Brydydd Hoddnant
- Hillyn
- Llywelyn Ddu ab Y Pastard
- Dafydd ap Gwilym (c. 1320-c. 1370)
- Gruffudd ab Adda ap Dafydd (fl. 1340-1370)
- Llywelyn Goch ap Meurig Hen
- Sefnyn
- Rhisierdyn
- Gruffudd Fychan ap Gruffudd ap Ednyfed
- Llywarch Bentwrch
- Gruffudd ap Maredudd
- Hywel ab Einion Lygliw
- Llywelyn ap Gwilym Lygliw
- Rhys ap Dafydd Llwyd ap Llywelyn Lygliw
- Madog Benfras
- Gruffudd Gryg
- Ieuan Waed Da
- Gruffudd Llwyd
- Dafydd Bach ap Madog Wladaidd ("Sypyn Cyfeiliog") (fl.1340-1390)
- Llywelyn ab Y Moel (fl. 1395-1440)
- Iolo Goch
- Dafydd Y Coed
- Ieuan Llwyd ab Y Gargam
- Meurig ab Iorwerth
- Y Proll
- Rhys Goch Eryri (fl. 1365-1440)
- Y Mab Cryg
- Tudur ap Gwyn Hagr
- Tudur Ddall
- Ieuan Brydydd Hir
- Ieuan ap Llywelyn Fychan
- Ieuan Llwyd Brydydd
- Llawdden
- Lewys Aled
- Iorwerth Fynglwyd
- Rhys Brydydd (fl. tua chanol y 15fed ganrif)
- Gwilym Tew (fl. 1460-1480)
- Dafydd Epynt
- Dafydd Llwyd o Fathafarn
- Gwerful Mechain
- Guto'r Glyn
- Ieuan Dyfi
- Lewys Glyn Cothi
- Gutun Owain
- Dafydd Nanmor
- Ieuan ap Rhydderch (c.1430-1470)
- Tudur Penllyn
- Ieuan ap Tudur Penllyn
- Dafydd Gorlech
- Hywel Cilan
- Siôn Cent
- Siôn ap Hywel
- Dafydd ap Hywel
- Huw ap Dafydd
- Lewys Morgannwg
- Siôn Ceri
- Huw Cae Llwyd
- Ieuan ap Huw Cae Llwyd
- Deio ab Ieuan Du
- Gwilym ab Ieuan Hen
- Maredudd ap Rhys
- Ifan Fychan ab Ifan ab Adda
- Syr Rhys o Lanbryn-Mair a Charno
- Owain ap Llywelyn ab y Moel (fl. 1470-1500)
- Rhisiart ap Rhys (fl. c.1495-c.1510)
[golygu] 16eg ganrif
Mae rhan fwyaf o feirdd hanner cyntaf y ganrif yn perthyn i draddodiad Beirdd yr Uchelwyr. Nid yw'r rhestr yn cynnwys gwaith beirdd a ganai ar y mesurau rhydd newydd o ganol y ganrif ymlaen.
- Tudur Aled (c.1465-1525)
- Lewys Môn (fl. 1485-1527)
- Lewys Daron (fl. 1520-39)
- Lewys Morgannwg (fl. 1520-1565)
- Simwnt Fychan (c.1530-1606)
- Gruffudd Hiraethog (1564)
- Wiliam Llyn (1534/5-1580)
- Wiliam Cynwal (1587/8)
- Huw Llyn (fl. 1540-1570)
- Morus Dwyfach (fl. 1540-1580)
- Huw Ceiriog (c.1560-1600)
- Edward Maelor (fl. 1567-1603)
- Edmwnd Prys (1543/4-1623)