Rumtek
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Rumtek yn fynachlog (Rumtek Gompa) a phentref ym mryniau Sikkim, tua 24km o Gangtok ar ochr orllewinol Dyffryn Ranipul.
Sefydlwyd mynachlog Rumtek yn 1717 yn ystod teyrnasiad pedwerydd chogyal Sikkim, Gyurmed Namgyal, a gyflwynodd dir helaeth i’w chynnal. Fe’i hailadeiladwyd ar ei safle presennol rhwng 1961 a 1966, yn yr arddull Tibetaidd traddodiadol, gan yr unfed Gyalwar Karmapa ar bymtheg, Rangjung Rigpe Dorje, ar ôl iddo a’i ddilynwyr ffoi o Dibet yn 1959 yn sgîl goresgyniad y wlad gan fyddin Tsieina.
Mae Rumtek Gompa yn lle pwysig iawn ym Mwdhaeth Tibet am ei bod yn gartref i'r Gyalwar Karmapa, pennaeth ysbrydol urdd y Kagyupa, a sefydlwyd yn yr 11eg ganrif gan Lama Marpa, disgybl y guru Indiaidd Naropa.
Er ei fod yn adeilad lled ddiweddar mae'r fynachlog yn drysorfa o luniau a chreiriau Tibetaidd.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.