St Petersburg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dinas ar lan y Môr Baltig yng ngogledd-orllewin Rwsia yw St Petersburg (Rwsieg Санкть–Петербург / Sankt-Peterbúrg; Petrograd / Петроград 1914–24, Leningrad / Ленинград 1924–91). Sefydlwyd gan Pedr Fawr. Hi oedd prifddinas Rwsia yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hi yw ail ddinas fwyaf Rwsia heddiw ac ym 2002 roedd mwy na 4,700,000 o bobl yn byw yno.
[golygu] Hanes
Sefydlwyd y ddinas fel ffenestr ar y Gorllewin gan Pedr Fawr ar 16 / 27 Mai 1703, pryd gosodwyd sylfaen Caer Pedr a Phawl ganddo. Ddechrau'r un fis, roedd y Rwsiaid wedi cipio'r ardal (Ingria) a chaer Nyen (hefyd Nyenschanz) oddiwrth Sweden. Rhoddodd yr enw "St Petersburg" arni ar ôl enw ei nawddsant, yr apostol Sant Pedr. Yn y cyfnod hwnnw ceir hefyd enw Iseldireg ar y ddinas, Sankt Piter Bourgh neu St Petersburch, gan fod Pedr Fawr yn byw ac yn astudio yn Amsterdam a Zaandam am beth amser ym 1697. Sefydlwyd y dref ger olion y caer Swedaidd nes at aber yr Neva.
Adeiladwyd y dref yn ystod rhyfel a'i adeilad cyntaf oedd y caer (Caer Pedr a Phawl) a'r ddinas yn cael ei hadeiladu o'i gwmpas gan beirianyddion o'r Almaen a wahoddwyd i Rwsia gan Pedr. Sefydlwyid y ddinas fel prifddinas newydd Rwsia. Gan ei bod ar arfordir y Môr Baltig roedd hi'n gyswllt pwysig i wledydd y gorllewin yn ogystal â phorthladd milwrol pwysig iawn gan gaer Kronstadt yn ei hamddiffyn.
Daeth elît y wlad i fyw yn St Petersburg ac erbyn heddiw mae llawer o'u plasdai yn y ddinas. Y mwyaf o'r rhain oedd Plas y Gaeaf a adeiladwyd gan Elisabeth o Rwsia rhwng 1754 a 1762. Lleolir Amgueddfa Genedlaethol yr Hermitage yno heddiw.
Rhyddhaodd Alexander II y taeogion ym 1861 ac o ganlyniad daeth llawer o bobl tlawd i'r ddinas. Ond roedd diwydiant yn llwyddiannus hefyd. Yn ogystal â hynny, roedd y ddinas yn ganolfan ddiwylliannol y wlad, gyda llawer o arlunwyr ac awduron yn byw yno. Bu syniadau sosialaidd yn boblogaidd yn y ddinas ymysg deallusion ac yn St Petersburg y dechreuodd Chwyldro Rwsia 1905.
Ar 18 / 31 Awst 1914 yn ystod Rhyfel Byd Cyntaf newidodd tsar Nicolas II enw'r ddinas i "Petrograd" am fod "St Petersburg" yn swnio'n rhy Almaeneg.
Ym 1917 dechreuodd Chwyldro Rwsia, ac o ganlyniad roedd daeth rheolaeth y tsar i ben a Gwrthryfel Rwsia yn dechrau. Roedd hinsawdd gwleidyddol y ddinas yn ansefydlog iawn ac felly symudodd Lenin, arweinwr y Bolsieficiaid, y brifddinas o Petrograd i Moscfa. Ers hynny Moscfa yw prifddinas Rwsia. Ar 26 Ionawr 1924, tair blynedd ar ôl i Lenin farw, ailenwyd y ddinas unwaith eto i "Leningrad".
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwarchaewyd Leningrad o 8 Medi 1941 tan 27 Ionawr 1944 gan fyddin yr Almaen. Yn ystod yr adeg hon daeth nwyddau dros iâ Llyn Lagoda am gyfnod, ond bu farw 80,000 o'r 3,000,000 o drigolion yn y ddinas o newyn.
Newidwyd enw'r ddinas i St Petersburg, ei henw gwreiddiol, ar 6 Medi 1991 ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd, ond mae'r ardal o'i chwmpas ond enw swyddogol ei rhanbarth (oblast) o hyd yw Oblast Leningrad.
[golygu] Enwau'r ddinas
Enw | O | Hyd |
St Petersburg | 16 / 27 Mai 1703 | 18 / 31 Awst 1914 |
Petrograd | 18 / 31 Awst 1914 | 26 Ionawr 1924 |
Leningrad | 26 Ionawr 1924 | 6 Medi 1991 |
St Petersburg | 6 Medi 1991 | heddiw |