Trioedd Ynys Prydain
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Trioedd Ynys Prydain (hen ffurf: Trioedd Ynys Prydein) yw'r enw ar gasgliad arbennig o drioedd sy'n ffurfio math o fynegai neu wyddionadur llawfer o wybodaeth y beirdd Cymraeg am hanes a thraddodiadau cynnar Cymru ac Ynys Prydain. Fel yn achos trioedd eraill, mae'r deunydd yn cael ei ddosbarthu yn unedau o dri, gan restru enwau arwyr traddodiadol a digwyddiadau, ac mae gan bob triawd ei deitl. Mae 96 triawd wedi goroesi.
[golygu] Llawysgrifau
Ceir y testun cynharaf yn llawysgrif Peniarth 16 (ac eithrio pedwar triawd yn Llyfr Du Caerfyrddin a elwir Trioedd y Meirch) gyda fymryn llai na hanner o'r 96 o Drioedd Ynys Prydain sydd wedi goroesi. Mae'n dyddio o'r 14eg ganrif neu ddechrau'r 15fed ganrif. Ceir detholiad o 22 triawd yn Llyfr Gwyn Rhydderch (tua 1400). Ymhlith y llawysgrifau eraill y pwysicaf yw Peniarth 47 a Pheniarth 50.
[golygu] Cynnwys
Mae'n debyg fod gwreiddiau Trioedd Ynys Prydain yn hen iawn. Ynddyn nhw ceir math o grynodeb o ddysg y beirdd, fel math o lawlyfr cryno i hanes traddodiadol y Cymry. Diau mai rhan o'i bwrpas yw gwasanaethu fel cymorth i gofio chwedlau a thraddodiadau a'r berthynas rhyngddyn nhw. Dylid cofio fod y bardd cynnar yn gyfarwydd (adroddwr chwedlau, chwedleuydd) yn ogystal a bod yn brydydd. Roedd dysg y beirdd yn cael ei throsglwyddo ar leferydd ac felly roedd angen ffurf a fyddai'n hawdd i'w gofio.
Craidd Trioedd Ynys Prydain yw chwedlau neu draddodiadau am gymeriadau Cymreig neu Frythonaidd sy'n perthyn i fyd mytholeg, hanes traddodiadol Cymru ac Ynys Prydain o safbwynt Cymreig gyda'r pwyslais ar Gaswallon, Gwrtheyrn a Macsen Wledig a'u cylch, a chymeriadau a digwyddiadau sy'n gysyllteidig â'r Hen Ogledd ac Oes Arwrol y 6ed a'r 7fed ganrif. Yn perthyn i'r dosbarth olaf y mae traddodiadau Cymreig am Arthur a'i lys.
[golygu] Llyfryddiaeth
Y golygiad safonol yw:
- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein. The Welsh Triads (Caerdydd, 1978). Ceir y testunau Cymraeg gyda chyfieithiadau Saesneg, rhagymadrodd helaeth a nodiadau llawn.