Tylluan Fach
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Tylluan Fach | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
||||||||||||||
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Athene noctua Scopoli, 1769 |
Mae'r Dylluan Fach (Athene noctua ) yn aelod o deulu'r Strigidae, fel y rhan fwyaf o ddylluanod. Mae'n aderyn cyffredin neu gweddol gyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop, Asia a gogledd Affrica. Nid yw'r rhywogaeth yma yn frodorol i Ynys Prydain; cawsant eu gollwng yn y 19fed ganrif ac maent wedi ymsefydlu'n llwyddiannus.
Fel y gellir casglu o'r enw, mae'r Dylluan Fach yn un o'r lleiaf o'r tylluanod, 23-27.5 cm o hyd. Mae'n bwyw ar bryfed, pryfed genwair ac anifeiliaid bychain eraill. Mae i'w gweld yn ystod y dydd yn amlach na'r rhan fwyaf o dylluanod eraill Ewrop.
Ceir y Dylluan Fach mewn tir agored megis ffermdir a pharcdir. Mae'n nythu mewn tyllau mewn coed neu greigiau ac yn dodwy 3-5 wyau. Yr is-rywogaeth a geir trwy'r rhan fwyaf o Ewrop yw A. n. noctua, sydd a phlu brown gyda marciau gwyn ar y cefn a plu gwyn gyda marciau brown ar y bol. Mae'r is-rywogaethau a geir yng ngogledd Affrica (A. n. desertae) a'r Dwyrain Canol (A. n. lilith) yn fwy gwelw.
Mae'r dylluan fach i'w chael fel rheol mewn ardaloedd lle mae cymysgedd o goed a chaeau, ac nid yw'n aderyn mudol. Daw'r enw gwyddonol ar y genws o'r ffaith fod yr aderyn yn gysegredig i'r dduwies Athena, duwies dinas Athen.