Athen
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
- Am enghreifftiau eraill o'r ffurf Saesneg ar enw'r ddinas, gweler Athens.
Athen (Athinai) yw prifddinas Gwlad Groeg ac un o'r dinasoedd hynaf yn hanes y byd. Fe'i henwir ar ôl Athena, nawdd-dduwies y ddinas. Fe'i lleolir ar wastadir yn ne-ddwyrain y wlad yn rhanbarth Attica, ger Gwlff Saronica. Athen yw canolfan economaidd, gweinyddol a diwylliannol Gwlad Groeg. Mae'n cael ei llywodraethu fel uned gyda'i phorthladd Piraeus. Mae'r ddinas yn cyfuno'r hynafol a diweddar heb ddim ond ychydig o olion o'r cyfnod rhwng cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig a'r 19eg ganrif. Mae twristiaeth yn bwysig i'r economi. Daw pobl o bob cwrdd o'r byd i weld ei henebion enwog fel y Parthenon a'r Erechtheum ar yr Acropolis. Ger yr Acropolis mae'r Theseum, un o'r temlau clasurol gorau, a'r hen Agora (marchnad) yn ogystal. I'r gogledd a'r dwyrain o'r Acropolis mae'r rhan fwyaf o'r ddinas ddiweddar yn gorwedd, gan gynnwys ei phrifysgol, a sefydlwyd yn 1837.
[golygu] Hanes
Ceir tystiolaeth archaeolegol fod pbol wedi byw yn Athen ers tua 3,000 CC. Ond ni ddaeth Athen i amlygrwydd tan y chweched ganrif CC dan Pisistratus a'i feibion. Tua 506 CC sefydlodd Cleisthenes ddemocratiaeth i wŷr rhydd y ddinas. Erbyn y ganrif nesaf Athen oedd prif ddinas-wladwriaeth Groeg yr Henfyd. Llwyddodd i wrthsefyll grym yr Ymerodraeth Bersiaidd diolch i nerth ei llynges. O'r cyfnod hwnnw (Rhyfeloedd Groeg a Phersia) mae'r Muriau Hir, sy'n cysylltu'r ddinas â Phriraeus, yn dyddio, ynghyd â'r Parthenon. Dan lywodraeth Pericles cyrhaeddodd Athen brig ei diwylliant a'i dylanwad yn yr Henfyd, gydag athroniaeth Socrates a dramâu Ewripides, Aeschylus a Soffocles. Daeth rhyfel â Sparta, oedd yn cystadlu ag Athen am arweinyddiaeth yn y byd Groegaidd gan wrthwynebu ei pholisïau imperialaidd, yn y Rhyfel Pelopenesaidd (431-404 CC), a cholli fu hanes Athen. Adferodd ei goruchafiaeth yn araf ac yn y cyfnod nesaf yn ei hanes gwelwyd ffigurau fel Platon, Aristotlys ac Aristophanes yn adfer bri Athen fel prifddinas dysg a diwylliant yr Henfyd.
Cymharol fyr fu'r cyfnod llewyrchus olaf, fodd bynnag. Yn 338 CC gorchfygwyd Athen gan Philip o Facedon ac erbyn yr ail ganrif CC roedd hi'n rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Ond er bod grym gwleidyddol Athen wedi diflannu parheai i fod yn ddylanwad mawr ar fywyd diwyllianol y byd Rhufeinig a Helenistaidd am ganrifoedd. Hyd yn oed ar ôl iddi gael ei goresgyn dros dro gan lwythi Germanaidd yn y 4edd ganrif roedd ei hysgolion rhethreg ac athroniaeth yn dal i flodeuo nes iddynt gael eu cau gan Justinian yn 529. Dirywiodd y ddinas yn gyflym yn y cyfnod Bysantaidd. Cwympodd i'r Croesgadwyr yn 1204 ac roedd dan reolaeth Twrci o 1456 hyd 1833 pan ddaeth yn brifddinas y deyrnas Roeg annibynnol newydd. Cafodd ei meddiannu gan yr Almaenwyr yn yr Ail Ryfel Byd. Erbyn heddiw mae'n ddinas fawr a llewyrchus. prifddinas y wladwriaeth Roegaidd.