Cusan
Oddi ar Wicipedia
Math o gyffyrddiad gyda'r gwefusau yw cusan.
Does dim cytundeb ymysg anthropolegwyr ynglŷn ag os yw cusanu yn ymddygiad greddfol, neu ymddygiad a ddysgir. Mae amrywiad mawr rhwng wahanol ddiwylliannau o ran natur ac arwyddocad cusanu. Yn y Gorllewin, mae'n fynegiad o anwyldeb fel arfer. Er enghraifft, fe all fod yn gyfarchiad neu'n ystym ffarwelio rhwng aelodau o deulu neu gyfeillion agos.
[golygu] Cusanu serchus
Yn aml, mae cusan yn fynegiad o ysu rhywiol, neu serch rhamantaidd. Yn aml, mae dau berson yn cusanu'i gilydd ar y gwefusau, yn hirach ac yn fwy dwys na fyddai'r arfer mewn cusan cyfeillgar. Fe all y par agor eu cegau mewn cusan mwy angerddol, a symud eu tafodau i gegau'i gilydd, neu fod y naill yn sugno ar un o wefusau'r llall. Mewn cud-destun rhywiol, fe all bobl gusanu gwahanol rhannau o'u cyrff.
[golygu] Cusanu yn y Beibl
Ceir sawl enghraiftt o gusanu yn y Beibl. Mae Jwdas yn cusanu'r Iesu wrth iddo ei fradychu, yn ol yr efengylau. Cusanodd merch, a gysylltir yn draddodiadol â Mair Fadlen yn nhraddodiad Cristnogol y Gorllewin, draed Crist ar ôl eu golchi â'i dagrau ei hun (Yr Efengyl yn ôl Luc, 7:36-38).
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.