Cristnogaeth
Oddi ar Wicipedia
Mae Cristnogaeth neu Cristionogaeth yn grefydd undduwiaeth sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth Iesu Grist. Gosodir allan prif egwyddorion Cristnogaeth yn y Testament Newydd, casgliad o lyfrau a llythyrau a ysgrifennwyd yn yr iaith Roeg yn wreiddiol ac sy'n rhan, gyda'r Hen Destament Iddewig (ac weithiau'r Apocryffa), y Beibl. Mae'r enw Crist yn dod o'r gair Groeg Χριστός (Christos) sy'n golygu "yr Eneiniog".
Gorchymyn cyntaf Iesu Grist oedd "caru Duw", a'r ail orchymyn oedd "caru dy gymydog" (Marc XII:30,31 a Luc X:27). Mae haeloni (anhunanoldeb) a thrugaredd yn ganolog i Gristnogaeth.
Mae'n ymddangos nawr fod yr Iesu wedi ei eni tua 4 CC ym Methlehem. Does dim llawer o wybodaeth am ei fywyd cynnar nes iddo gyrraedd 30 oed pan benododd ddeuddeg o ddisgyblion (yr Apostolion). Cafodd Iesu ei groeshoeli tua 29 OC, neu yn ôl amseryddiaeth yr Eglwys Gatholig 7 Ebrill 30.
[golygu] Cristnogaeth yng Nghymru
Ni ellir bod yn sicr pryd yn union y cafwyd y Cristnogion cyntaf yng Nghymru, ond mae'n bosibl bod rhai i'w cael yno yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Daeth cenhadon i Gymru o Gâl tua'r bumed ganrif i bregethu o gwmpas y wlad ac i addysgu a sefydlu eglwysi. Erbyn yr wythfed ganrif credir fod Cymru gyfan wedi derbyn y ffydd Gristnogol.
[golygu] Enwadau Cristnogol
Mae hi'n debyg fod gan y Gristnogaeth tua 1,719 miliwn o ganlynwyr o gwmpas y byd. Y prif enwadau yw:
- Yr Eglwys Uniongred; tua 158 miliwn.
- Eglwys Arminaidd, Eglwys Iacobaidd, Eglwys Goptaidd
- Eglwys Uniongred Ddwyreiniol
- Yr Eglwys Gatholig Rufeinig (Catholigion); tua 901 miliwn.
- Protestannaidd (Protestaniaid); tua 397 miliwn.
- Calfinaidd (Eglwys Bresbyteraidd ac eraill)
- Eglwys Anglicanaidd (yn cynnwys Yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Loegr)
- Enwadau Anghydffurfiol (e.e. Bedyddwyr, Annibynnwyr, Methodistiaid, Efengylaidd)
- Eglwys y Gwir Iesu (Pentecostaidd)
- Enwadau eraill; tua 164 miliwn.