Oddi ar Wicipedia
Lleoliad Michigan yn yr Unol Daleithiau
Mae Michigan yn dalaith yng ngogledd canolbarth yr Unol Daleithiau, a amgylchynir o'r gorllewin i'r dwyrain gan rai o'r Llynnoedd Mawr; Llyn Superior, Llyn Huron, Llyn Michigan, Llyn Erie a Llyn St Clair. Fe'i hymrennir gan Culfor Mackinac yn ddwy ardal ar wahân: y Gorynys Isaf yn y de (iseldiroedd) a'r Gorynys Uchaf yn y gogledd (islediroedd yn y dwyrain ac ucheldiroedd yn y gorllewin). Mae trwch y boblogaeth yn byw yn y Gorynys Isaf. Y Ffrancod oedd yr Ewropeaidd cyntaf i archwilio'r ardal, yn yr 17eg ganrif, ac arosodd dan reolaeth Ffrainc hyd 1763 pan y'i cipiwyd gan Brydain Fawr a'i hychwanegu i diriogaeth Canada. Daeth i feddiant yr Unol Daleithiau yn 1783 a daeth yn dalaith yn 1837. Lansing yw'r brifddinas.