Teledu
Oddi ar Wicipedia
Peiriant telathrebu y gellir edrych a gwrando ar raglenni a ffilmiau drwyddo yw teledu.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes teledu
Ar ôl datblygiad radio fe weithiodd sawl dyfeisiwr i ddatblygu ffordd o ddarlledu lluniau gyda'r sŵn. Un nodweddidaol ym Mhrydain oedd yr albanwr John Logie Baird. Yn gyffredinol fe cyfrir Philo T Farnsworth o Rigby, Idaho yn yr UDA fel dyfeisydd y system modern o deledu ym 1928. Roedd teledu ar gael i'r cyhoedd o'r tridegau hwyr ymlaen ac mae nawr yn rhan cyffredin o fywydau pobl trwy'r byd, yn arbennig y byd cyntaf.
Dechreuodd teledu darlledu gyda lluniau du a gwyn ond newidwyd i luniau lliw (dechreuodd y newid hwn yn y chwedegau ym Mhrydain). Yn y saithdegau fe ddatblygwyd ffurf masnachol i'r cyhoedd recordio teledu - y recordydd caset fidio (neu VCR yn Saesneg) - a hefyd defnyddiwyd y casetiau hyn i werthu ffilmiau i'r cyhoedd i wylio gartref. Erbyn hyn defnyddir DVDau i wylio ffilmiau a weithiau i'w recordio. Mae datblygiadau diweddar ym myd teledu yn cynnwys teledu digidol, defnyddio Gyrrianau Caled i recordio ffilmiau, a theledu diffiniad uchel (HDTV).
[golygu] Teledu yn y DU
Mae yna ddau fath o orsaf - y rhai 'daearol' a'r rhai 'lloeren'. Mae'r gorsafoedd daearol yn cael ei ddarlleu ar y ddaear trwy ddefnyddio mastiau. Gellir gwylio rhain trwy ddefnyddio 'erial' confensiynol. I wylio gorsafoedd lloeren rhaid cael disgl lloeren, neu mae rhaid cael y sianeli trwy drydydd parti - h.y. cwmni pibell neu 'cêbl'.
Ar hyn o bryd yn y DU mae yna newid technoleg darlledu y gorsafoedd daearol o analog i ddigidol. Mae hwn yn digwydd yn raddol a bwriedir gorffen y gwaith yn 2013. Mae mwy o fanylion ar sawl wefan yn cynnwys [hon]. Mae Cymru yn cael ei heffeithio o ganol 2009 i ddechrau 2010. Rhaid cael teledu newydd sy'n derbyn signalau digidol neu prynu bocs arbennig sy'n galluogi hen deledu i dderbyn y signal.