Bechbretha
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Llyfr Cyfraith canoloesol yn yr iaith Wyddeleg sy'n ymwneud â chyfraith Gwyddelig cadw gwenyn mêl yw Bechbretha.
Mae'n destun hynafol Hen Wyddeleg a ysgrifenwyd tua'r 8fed ganrif, yn ôl pob tebyg. Fe'i cedwir y fersiwn hynaf (a'r unig destun cyfan) yn llawysgrif H.2.15A, yn Llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn, sydd y llawysgrif gyfraith Wyddeleg hynaf sydd wedi goroesi.
Mae'r rheolau cyfreithiol ynglŷn a gwenyn yn hynod fanwl ac yn adlewyrchu pwysigrwydd mêl, a ddefnyddid i wneud y diod meddwol medd, ymhlith pethau eraill, yn y gymdeithas Wyddelig gynnar.
Ceir testunau cyffelyb yn y llyfrau cyfraith Cymreig, ond nid ydynt mor fanwl.
[golygu] Gweler hefyd
- Gwenynen Fêl - adran ar lên gwerin gwenyn a mêl.
[golygu] Llyfryddiaeth
- T. Charles-Edwards & F. Kelly (ed.), Bechbretha: An Old Irish Tract on Beekeeping (Dulyn, 1983)