Gwenynen Fêl
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gwenyn mêl | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwenynen ar flodyn afal | ||||||||||||||||
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||||
|
||||||||||||||||
Rhywogaethau | ||||||||||||||||
A. mellifera |
Pryfedyn sydd yn cynhyrchu mêl yw'r wenynen fêl. Mae dyn yn cadw gwenyn ers o leiaf 4 mil o flynyddoedd gan fod yr Eifftiaid yn cadw gwenyn. Mae gwenyn mêl yn casglu neithdar a'i storio yn eu nyth i fod yn fwyd iddynt , yn arbennig yn y gaeaf. Er hwylustod i gasglu'r mêl mae dyn yn rhoi cwch gwenyn iddynt ymgartrefi ynddo. Gwenynwr yw rhywun sydd yn cadw a gofalu am y gwenyn mêl a'r cychod.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Bywyd
Mewn drefedigaeth gwenyn mae un mamwenynen, sef brenhines y drefedigaeth sydd yn dodwy wyau a chanoedd o gwenyn ormes, sef gwenyn gwrywol, ond mae gwenyn weithgar neu gweithwreig yn mwyaf niferus. Fel arfer, mae rhwng 40,000 a 80,000 o wenyn yn byw mewn cwch gwenyn yn ystod yr haf, ond llawer llai yn ystod y gaeaf. Mae gwenyn yn cydweithio wrth hel mêl a credir eu bod yn defnyddio "dawns" i hysbysu lleoliad blodau i'r gwenyn eraill.
Mae colyn gan wenynen ac felly gallant bigo, ond fel arfel gwnant hynny ond pan gredant eu bod dan fygythiad.
[golygu] Cynnyrch
[golygu] Paill
Mae gwenyn yn peillio planhigion sydd yn blodeuo a mae ardaloedd ble mae'r pobl yn gosod cwch wenyn ger planhigion masnachol er mwyn gwneud yn siwr fod gwenyn yn gwneud eu gwaith.
[golygu] Mêl
Defnyddir mêl i roi flas ar fwyd. Mae blas mêl yn dibynnu ar y blodau o gwmpas cwch wenyn.
[golygu] Cŵyr gwenyn
Mae'r wenynen weithgar yn cynhyrchu cŵyr gwenyn i aeiladu'r crwybr cŵyr. Defnyddir cŵyr gwenyn i gynhyrchu canhwyllau a chŵyr dodrefn er engraifft..
[golygu] Cyswllt allanol
[golygu] Traddodiadau
Mae gwenyn yn un o ryfeddodau natur a fendithia ddyn ac sy'n ennyn ei gywreinrwydd. Ceir un o'r cyfeiriadau cynharaf atynt yn y Gymraeg yn y gerdd fytholegol Cadair Taliesin: Pan yw dien gwlith / a llad gwenith / a gwlith gwenyn / anglud ac ystor (Llyfr Taliesin, 32.6-7, wedi'i ddiweddaru ychydig). Yn fuan iawn yn hanes y ddynoliaeth daeth dyn i werthfawrogi mêl gwyllt fel ffordd o felysu bwyd a hefyd, yn ddiwedarach, i wneud y ddiod gadarn gyntaf (yn ogledd Ewrop), sef medd. Credid mai 'bwyd y duwiau' oedd mêl oherwydd ni wyddai neb sut y'i cynhyrchwid (gw. Marged Haycock, 'Canu y Medd o Lyfr Taliesin', Dwned 1 (1995), 7-24, am drafodaeth).
Yn yr Oesoedd Canol credai Cristnogion fod yna gysylltiad uniongyrchol rhwng gwenyn, Paradwys a phechod dyn, fel y mae awdur Llyfr Cyfnerth yn esbonio: Bonhedd gwenyn o paradwys pan yw ac o achaws pechawt dyn y doethant odyno ac y dodes Duw y rat arnunt; ac wrth hynny ny ellir canu efferen heb y cwyr (Nesta Lloyd a Morfydd E. Owen (gol.), Drych yr Oesoedd Canol, Caerdydd 1986, t. 165). Credid bod gwenyn yn moliannu Crist yn blygeiniol ar fore'r Nadolig (John Jones (Myrddin Fardd), Llen Gwerin Sir Gaernarfon, Caernarfon, d.d.=1908, t. 144, 268). Ond mae gwreiddiau'r goel Gristnogol i'w cael mewn traddodiad paganaidd hŷn. Yn ardal Abergele ar ddiwedd y 19 ganrif, yn ôl y bardd T. Gwynn Jones, gelwid crŵn gwenyn a chacwn a mân wybed eraill... yn "ganu'r Tylwyth Teg". Ym mhen blynyddoedd, deuthum i wybod ei fod yn hysbys yn Iwerddon wrth enw tebyg, "ceol sidhe", canu'r Tylwyth Teg. (T. Gwynn Jones, Brithgofion, Llandebie, 1944, t. 10). Naturiol, felly, oedd cyffelybu'r beirdd i wenyn. Mae Dafydd Nanmor yn cyfeirio at y beirdd a ymdyrrai i lys Rhys o'r Tywyn i gany fal mêl gwenyn (Thomas Roberts (gol.), The Poetical Works of Dafydd Nanmor, Cardiff 1928, II.32). Dywed Tudur Aled fod y Glêr (mân-feirdd neu feirdd crwydrol) yn heidio fel gwenyn i lys y Deon Cyffin: Nid amlach gwenyn i'r glyn no'r Glêr (T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled, Caerdydd 1926, VIII.21; cf. LI.51-2). Credid bod gwenyn yn rhoddi rhagfynegiad o farwolaeth y penteulu naill ai trwy farw yn y cwch gwenyn neu gilio ohono (gw. Evan Isaac, Coelion Cymru, Aberystwyth 1938, t. 84). Credid hefyd fod yna gysylltiad rhwng gwenyn a chorff Abel, brawd Cain, fel yn yr englyn hwn gan Bleddyn Ddu: Cwning can nwsing. cywion isel - cainc, / Cyrff ifainc craff afel; / Cnwd o wybed cnawd Abel, / Cario maen' y cwyr a'r mêl (R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Bleddyn Ddu, Aberystwyth 1994, cerdd 9).
Ymhellach ar wenyn yn llên yr Oesoedd Canol yn gyffredinol, gweler Drych yr Oesoedd Canol t. 163-5. a hefyd T. Charles-Edwards & F. Kelly (ed.), Bechbretha: An Old Irish Tract on Beekeeping, Dublin 1983, tt. 192-205.