Gwyddeleg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gwyddeleg (Gaeilge) | |
---|---|
Siaredir yn: | Iwerddon |
Parth: | Gaeltacht |
Siaradwyr iaith gyntaf: | 250,000 |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | Dim yn y 100 uchaf |
Dosbarthiad genetig: | Indo-Ewropeg Celteg |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | Gweriniaeth Iwerddon, yr Undeb Ewropeaidd |
Rheolir gan: | Foras na Gaeilge |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | ga |
ISO 639-2 | gle |
ISO 639-3 | gle |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Mae Gwyddeleg (Gaeilge) yn iaith Geltaidd. Mae tua 1,600,000 o bobl yn Iwerddon yn siarad Gwyddeleg.
Datblygodd yr iaith Wyddeleg allan o iaith Geltaidd hynafol a elwir Goideleg (arferir yr enw 'Celteg Q' yn ogystal; rhan o 'Gelteg P' oedd Brythoneg, rhagflaenydd y Gymraeg). Gaeleg a Manaweg ydyw'r ieithoedd Goideleg eraill. Maent yn fwy tebyg i'w gilydd nag ydyw'r Gymraeg i'r Gernyweg a'r Llydaweg. Bu ymfudo rhwng Iwerddon a gorllewin yr Alban am ganrifoedd, ac mae traddodiad llenyddol y Wyddeleg a'r Aeleg yn tarddu o'r traddodiad Hen Wyddeleg ac orgraff y ddwy iaith yn rhannu nodweddion cyffredin. Fel yn achos y Gymraeg mae'n arfer rhannu hanes yr iaith yn dri chyfnod, sef Gwyddeleg Diweddar, Gwyddeleg Canol a Hen Wyddeleg.
Mae'r Wyddeleg wedi cilio fel iaith gymunedol naturiol llawer mwy na'r Gymraeg, ond mae gan yr ardaloedd lle mae Gwyddeleg yn dal yn iaith lafar gymunedol gydnabyddiaeth swyddogol. Nifer o ardaloedd bach gwledig ydynt, wedi'u gwasgaru ar draws saith sir, a elwir gyda'i gilydd yn ardaloedd y Gaeltacht.
[golygu] Rhai geiriau Gwyddeleg
- Bó - buwch
- Fear / Duine - gŵr / dyn
- Gealach - lleuad (lloer)
- Grian - haul
- Sliabh - mynydd
- Trá - traeth
[golygu] Gweler hefyd
- Gaeltacht
- Llenyddiaeth Wyddeleg
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Lexicelt: geiriadur ar-lein Cymraeg-Gwyddeleg
- Foras na Gaeilge
- Cymdeithas gyfieithwyr Gwyddeleg
- Wicitestun Gwyddeleg
- (Almaeneg) Die araner mundart (disgrifiad ffonolegol o dafodiaith Ynysoedd Aran, 1899)
- Gaeilge ar an ghréasán
- Focal.ie, cronfa dermau
- Foinse - papur newydd wythnosol
- Daltaí na Gaeilge
- Gaelscoileanna
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Ieithoedd Celtaidd | ||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd |