Bodensee
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bodensee | |
---|---|
Cyfesurynnau | 47°39′Gog 9°19′Dwy |
Tarddiadau Cynradd | Rhein |
All-lifoedd Cynradd | Rhein |
Dalgylch | 11500 km² |
Gwledydd Basn | Yr Almaen Awstria Y Swistir Liechtenstein |
Hyd Mwyaf | 63 km |
Lled Mwyaf | 14 km |
Arwynebedd | 539 km² |
Dyfnder Cyfartalog | 90 m |
Dyfnder Mwyaf | 252 m |
Cyfaint Dŵr | 55 km³ |
Dyrchafiad Arwyneb | 395 m |
Ynysoedd | Mainau, Reichenau, Lindau |
Treflannau | Nifer |
Llyn mawr ar Afon Rhein rhwng yr Almaen, y Swistir ac Awstria yw'r Bodensee (Almaeneg Bodensee, Ffrangeg Lac de Constance). Mae ganddo arwynebedd o 536km2. Mae'r llyn yn cynnwys tair ynys fawr, Ynys Mainau, Ynys Reichenau ac Ynys Lindau, ynghyd â nifer o ynysoedd llai. Fe'i lluniwyd yn ystod Oes yr Iâ gan rewlif y Rhein.
Daw ei enw oddiwrth enw'r pentref Bodman ar ben gogledd-orllewinol y llyn. Ffurfiau cynharach ar ei enw yw Bodmansee a Bodansee. Mae llawer o ieithoedd Ewropeaidd yn defnyddio enwau ar y llyn (megis Ffrangeg Lac de Constance, Saesneg Lake Constance, Eidaleg Lago di Costanza, Portiwgaleg Lago de Constança, Sbaeneg Lago de Constanza) sy'n tarddu oddiwrth enw Konstanz, dinas fwyaf ar lan y llyn.