Canolbarth America
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Canolbarth America yn rhanbarth ddaearyddol ar gyfandir yr Amerig sy'n gorwedd rhwng rhan ogleddol Gogledd America a De America. Mae'n ymestyn o orynys Tehuantepec yn ne-orllewin Mexico i ffin ogledd-orllewinol Columbia ac yn cynnwys tua 596,000 km² (230,000 milltir sgwâr) o dir. Mae'r tywydd yn drofaol ac mae'r rhanbarth yn dioddef corwyntoedd cryf weithiau.
Mae Canolbarth America yn cynnwys, o'r gogledd i'r de:
- pedair talaith deheuol Mexico
- Guatemala
- Belize
- Honduras
- El Salvador
- Nicaragua
- Costa Rica
- Panama
[golygu] Daearyddiaeth
Mae Canolbarth America yn rhanbarth fynyddig. Ceir nifer o losgfynyddoedd, yn cynnwys Tajumulco sy'n codi i 4210m (13,846'). Mae ei hardaloedd arfordirol yn ffrwythlon a thyfir nifer o gnydau, er enghraifft bananas, coffi a coco. Mae'r rhan fwyaf o'r trigolion o dras gymysg Ewropeiaidd a brodorol.
[golygu] Hanes
Cyn ymddangosiad yr Ewropeiaid cyntaf bu rhannau o Ganolbarth America yn gartref i wareiddiaid brodorol hynod, er enhgraifft penrhyn Yucatan. Syrthiodd y tir i feddiant Sbaen (ac eithrio Belize ac ambell fan arall). Yn gynnar yn y 19eg ganrif cafodd gwledydd y rhanbarth annibyniaeth ar Sbaen a ffurfiodd Costa Rica, El Salvador, Gutaemala, Honduras a Nicaragua Cynghrair Canolbarth America (neu 'Taleithiau Unedig Canolbarth America') (1823 - 1838). Yn 1960 ffurfiodd y gwledydd hyn Marchnad Gyffredin Canolbarth America.
Rhanbarthau'r Ddaear | |||
![]() |
Yr Affrig | Canolbarth · De · Dwyrain · Gogledd · Gorllewin | |
---|---|---|---|
![]() |
Yr Amerig | Y Caribî · Canolbarth · De · Gogledd · Lladin | |
![]() |
Asia | Canolbarth · De · De Ddwyrain · De Orllewin · Dwyrain · Gogledd | |
![]() |
Ewrop | Canolbarth · De · Dwyrain · Gogledd · Gorllewin | |
![]() |
Oceania | Awstralia · Melanesia · Micronesia · Polynesia · Seland Newydd | |
|
|||
![]() |
Y Pegynau | Yr Arctig · Yr Antarctig | |
![]() |
Cefnforoedd | Arctig · De · India · Iwerydd · Tawel |