De America
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae De America yn gyfandir yn y Hemisffer Gorllewinol rhwng y Cefnforoedd Tawel a'r Iwerydd. Mae y rhan fwyaf ohono yn yr Hemisffer Deheuol.
Cyfeirir ato yn aml fel yn rhan o'r Americas, fel ag y gwneir â Gogledd America. Enwyd De America ar ôl Amerigo Vespucci, yr Ewropead cyntaf i awgrymu nad India'r Dwyrain oedd yr Americas, ond y Byd Newydd.
Mae gan Dde America arwynebedd o 17,820,000 km² (6,880,000 mi sg), neu tua 3.5% o arwynebedd y Ddaear. Yn 2005, credir bod y boblogaeth yn fwy na 371,200,000. Dyma'r pedwerydd cyfandir o ran arwynebedd (ar ôl Asia, Affrica, a Gogledd America) a'r pumed o ran poblogaeth (ar ôl Asia, Affrica, Ewrop, a Gogledd America).
[golygu] Daearyddiaeth De America
Mae cyfandir De America yn cynnwys nifer o ynysoedd, y rhan fwyaf ohonynt yn perthyn i wledydd ar y gyfandir. Mae tiriogaethau'r Caribi wedi'u grŵpio â Gogledd America, Mae'r gwledydd De America sy'n ffinio â Môr y Caribi – yn cynnwys Colombia, Venezuela, Guyana, Suriname, a Guyane Ffrengig – hefyd yn cael eu adnabod fel De America Caribïaidd.
[golygu] Gwledydd De America
- Yr Ariannin
- Bolivia
- Brasil
- Colombia
- Chile
- Ecwador
- Guyana
- Guiane Ffrengig
- Paragway
- Periw
- Surinam
- Trinidad a Tobego
- Wrwgway
- Feneswela
[golygu] Tabl o wledydd, tiriogaethau a rhanbarthau De America
Enw tiriogaeth, efo baner |
Arwynebedd (km²) |
Poblogaeth (2005) |
Dwysedd poblogaeth (per km²) |
Prifddinas |
---|---|---|---|---|
Brasil | 8,511,965 | 186,112,794 | 21.9 | Brasília |
Ucheldiroedd Guiana: | ||||
Guyana | 214,970 | 765,283 | 3.6 | Georgetown |
Delwedd:GuyaneFlag.jpg Guyane Ffrengig | 91,000 | 195,506 | 2.1 | Cayenne |
Suriname | 163,270 | 438,144 | 2.7 | Paramaribo |
Taleithiau'r Andes: | ||||
Bolivia | 1,098,580 | 8,857,870 | 8.1 | La Paz, Sucre |
Ecuador | 283,560 | 13,363,593 | 47.1 | Quito |
Periw | 1,285,220 | 27,925,628 | 21.7 | Lima |
> De America Caribïaidd: | ||||
Colombia | 1,138,910 | 42,954,279 | 37.7 | Bogotá |
Venezuela | 912,050 | 25,375,281 | 27.8 | Caracas |
> Ynysoedd Caribïaidd: | ||||
Trinidad a Tobago | 5,128 | 1,088,644 | 212.3 | Port of Spain |
Côn Deheuol: | ||||
Paraguay | 406,750 | 6,347,884 | 15.6 | Asunción |
Uruguay | 176,220 | 3,415,920 | 19.4 | Montevideo |
> Patagonia: | ||||
Yr Ariannin | 2,766,890 | 39,537,943 | 14.3 | Buenos Airies |
Chile | 756,950 | 15,980,912 | 21.1 | Santiago |
Cyfandiroedd y Ddaear | ||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
||||||||||||||||||||||||||||
Affrica-Ewrasia |
Yr Amerig |
Ewrasia |
||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||
Affrica |
Antarctica |
Asia |
Ewrop |
Gogledd America |
De America |
Oceania |
||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||
Uwchgyfandiroedd daearegol : Gondwana · Lawrasia · Pangaea · Pannotia · Rodinia · Colwmbia · Kenorland · Ur · Vaalbara | ||||||||||||||||||||||||||||
|
Rhanbarthau'r Ddaear | |||
Yr Affrig | Canolbarth · De · Dwyrain · Gogledd · Gorllewin | ||
---|---|---|---|
Yr Amerig | Y Caribî · Canolbarth · De · Gogledd · Lladin | ||
Asia | Canolbarth · De · De Ddwyrain · De Orllewin · Dwyrain · Gogledd | ||
Ewrop | Canolbarth · De · Dwyrain · Gogledd · Gorllewin | ||
Oceania | Awstralia · Melanesia · Micronesia · Polynesia · Seland Newydd | ||
|
|||
Y Pegynau | Yr Arctig · Yr Antarctig | ||
Cefnforoedd | Arctig · De · India · Iwerydd · Tawel |