Iorwerth Drwyndwn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Iorwerth Drwyndwn neu Iorwerth ab Owain Gwynedd (fl. ail hanner y 12fed ganrif) oedd tad Llywelyn Fawr a hendaid Llywelyn ap Gruffudd ar ochr ei dad. Mae'n bosibl fod ei lysenw, a ddefnyddid yn gyffredinol, yn cyfeirio at nam ar ei drwyn neu anaf mewn brwydr. Os nam naturiol oedd ar ei drwyn byddai hyn yn ei amddifadu o'r hawl i olynu ei dad fel brenin Gwynedd, er ei fod yr hynaf o feibion cyfreithlon Owain Gwynedd (yn ôl y Cyfreithiau roedd rhaid i frenin fod yn ddi-nam).
Roedd Iorwerth yn un o saith feibion Owain Gwynedd. Ei frodyr oedd Hywel ab Owain Gwynedd (y bardd-dywysog, m. 1170), Rhun (m. 1146), Maelgwn, Dafydd (m. 1203), Rhodri (m. 1195, hendaid Senana gwraig Gruffudd ap Llywelyn a mam Llywelyn ein Llyw Olaf), a Chynan (tad Gwerful Goch a gorhendaid i Fadog ap Llywelyn, arweinydd y gogledd yng Ngwrthryfel Cymreig 1294-96 yn erbyn y goresgyniaid Seisnig).
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.