Istanbul
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Istanbul' (Twrceg: İstanbul, hefyd 'Stamboul,Cymraeg: Caergystennin) yw dinas fwyaf Twrci a'i ganolfan ddiwyllianol a masnachol bwysicaf. Cyn i Ataturk ei symud i Ankara yn 1923, Istanbul oedd prifddinas y wlad. Yr hen enwau arni oedd Constantinopolis neu Constantinople (Groeg: Κωνσταντινούπολη, Twrceg: Konstandinúpoli), cyn 1930, a Byzantium yng nghyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd. Heddiw, mae tua 11 i 15 miliwn o bobl yn bwy ynddi. Saif ar lannau Culfor Bosphorus ac mae'n amgae'r harbwr naturiol a adnabyddir fel y Corn Euraidd (Twrceg: Haliç, Saesneg Golden Horn). Mae rhan o'r ddinas ar dir Ewrop (Thrace) a'r gweddill yn Asia (Anatolia); hi yw'r unig ddinas fawr yn y byd sy'n sefyll ar ddau gyfandir. Mae'n brif ddinas Talaith Istanbul yn ogystal.
Istanbul yw'r unig ddinas yn hanes y byd sydd wedi bod yn brifddinas i dair ymerodraeth wahanol, sef yr Ymerodraeth Rufeinig (330-395), yr Ymerodraeth Fysantaidd (395-1453) ac Ymerodraeth yr Otomaniaid (1453-1923). Mae'r ddinas wedi cael ei dewis yn Brifddinas Diwylliant Ewropeaidd am 2010. Ychwanegwyd rhannau hanesyddol yr hen ddinas, ar y lan Ewropeaidd, at Restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1985. Un o adeiladau enwocaf y ddinas yw'r Mosg Glas.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.