Mahmoud Ahmadinejad
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mahmoud Ahmadinejad (Persieg: محمود احمدی نژاد ) neu Mahmud Ahmadinajad/ Ahmadinezhad / Ahmadi-Nejad / Ahmadi Nejad / Ahmady Nejad (ganwyd 28 Hydref, 1956) yw arlywydd Iran. Cafodd ei eni yn Garmser, ger Tehran. Mae'n ddyn dysgedig a gafodd ddoethuriaeth (PhD). Cymerodd drosodd ar ôl Mohammad Khatami fel chweched arlywydd ei wlad ar 3 Awst, 2005.
O ran ei wleidyddiaeth mae'n geidwadwr ar un ystyr ac eto'n awyddus i weld rhai newidiadau yn Iran, yn arbennig ym myd addysg wyddonol a datblygiad economaidd.
Mae'n adnabyddus am ei feirniadaeth hallt o lywodraeth George W. Bush yn yr Unol Daleithiau ac Israel. Yn ddiweddar mae Ahmadinejad wedi denu sylw am ei barodrwydd i barhau â rhaglen niwclear Iran yn wyneb comdemniad y Gorllewin, ac yn neilltuol America. Yn ogystal mae wedi datgan ei fod yn dymuno gweld Israel yn cael ei dileu o fap y byd ac wedi mynegi ei farn nad oedd yr Holocost hanner mor eang ag a dybir yn gyffredinol.
[golygu] Dolenni allanol
Rhagflaenydd: Mohammad Khatami |
Arlywydd Iran 3 Awst 2005 – |
Olynydd: - |
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.