Rhaglen niwclear Iran
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dechreuodd rhaglen niwclear Iran yn yr 1950au gyda chymorth yr Unol Daleithiau. Yn dilyn y Chwyldro Islamaidd yn 1979, bu'r llywodraeth yn dadfyddino'r rhaglen am gyfnod. Ailddechreuodd Iran y rhaglen yn fuan, ond gyda llai o gymorth Gorllewinol na chyn y chwyldro. Mae rhaglen niwclear gyfredol Iran yn cynnwys nifer o safleoedd ymchwil, mwynfa wraniwm, adweithydd niwclear, a chyfleusterau prosesu wraniwm sydd yn cynnwys ffatri cyfoethogi wraniwm.
Mae adfywiad rhaglen niwclear Iran wedi dod yn destun pryder i'r Gorllewin, yn benodol oherwydd ideoleg eithafol yr Arlywydd Mahmoud Ahmadinejad (a ddaeth i rym yn Awst 2005) yn cynnwys ei farn y dylid "chwalu Israel oddi ar fap y byd".[1] Mae rhai'n credu felly bod amcan y llywodraeth yw i ddatblygu arfau niwclear ac nid i gynhyrchu ynni niwclear yn unig fel maent yn haeru. Yn haf 2003 dywedodd yr Arlywydd Bush, Arlywydd yr Unol Daleithiau:
Rydym ni [yr Unol Daleithiau a Rwsia] eisiau gweithio gyda'n gilydd, yn ogystal â gyda'r Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol, i sicrhau nad oes ganddyn nhw yr un arf niwclear.[2]
Ar 23 Rhagfyr, 2006 gorfododd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig sancsiynau economaidd ar Iran yn gwahardd cyflenwad technoleg a defnyddiau niwclear (Penderfyniad 1737).[3]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ BBC Cymru'r Byd — Tramor – Iran - dyddiau dyrys. Adalwyd ar 3 Ionawr, 2007.
- ↑ "Perthynas Bush a Putin 'yn gryfach'", BBC, 1 Mehefin, 2003.
- ↑ (Saesneg)"Security Council imposes sanctions on Iran for failure to halt uranium enrichment, unanimously adopting Resolution 1737", Y Cenhedloedd Unedig, 23 Rhagfyr, 2006.