Static Wikipedia February 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu

Web Analytics
Cookie Policy Terms and Conditions Pen y Gogarth - Wicipedia

Pen y Gogarth

Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.

Y Gogarth o Benmaen-bach
Y Gogarth o Benmaen-bach

Penrhyn calchfaen i'r gorllewin o dref Llandudno, Sir Conwy, gogledd Cymru, a'i gopa'n 679 troedfedd uwchben lefel y môr yw Pen y Gogarth (neu'r Gogarth). Rhed y lôn doll a elwir Marine Drive oddi amgylch y Gogarth. Mae'r Gogarth yn ardal sy'n gyfoethog iawn ei holion cynhanesyddol, o Oes Newydd y Cerrig i Oes y Seintiau. Mae tramffordd Fictorianaidd yn dringo bron iawn i'r copa a cheir nifer o lwybrau cerdded ar hyd ei llethrau glaswelltog. Mae'r golygfeydd o'r copa yn wych ac yn ymestyn o fynyddoedd y Carneddau ac Eryri yn y de-orllewin i Fôn, Ynys Seiriol ac ar ddiwrnod braf Ynys Manaw yn y gogledd ac arfordir gogledd-ddwyrain Cymru yn y dwyrain.

Taflen Cynnwys

[golygu] Cyngreawdr Fynydd

Ei hen enw Cymraeg oedd Cyngreadr neu Cyngreawdr Fynydd. Mae'r bardd canoloesol Gwalchmai ap Meilyr yn cyfeirio ato yn y gerdd Gorhoffedd Gwalchmai:

Dyogladd gwenyg gwyn Gyngreawdr fynydd,
Morfa Rhianedd Maelgwn rebydd.
(Mae tonnau gwyn yn taro mynydd Cyngreawdr,
Morfa Rhianedd [y] brenin Maelgwn.)

[golygu] Olion Cyn-hanesyddol

[golygu] Mwyngloddio Copr

Roedd Pen y Gogarth yn safle cloddio pwysig yn ystod Oes yr Efydd. Er fod tystiolaeth fod cloddio wedi para hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae yna awgrym ond dim tystiolaeth y bu pobl yn mwyngloddio yma yn ystod Oes yr Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid hefyd. Roedd y siafftiau wedi eu blocio gan bren a cherrig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae'r safle yn agored i'r cyhoedd heddiw ar ôl archwiliad archaeolegol o'r safle.

Dechreuwyd mwyngloddio copr ar Ben y Gogarth tua 4000 o flynyddoedd yn ôl, ac mae mwy na phedair milltir o dwneli ac ogofâu wedi'u cloddio yn ystod Oes yr Efydd, pan ddefnyddiwyd cerrig igneaidd yn ogystal ag esgyrn gwartheg, defaid, geifr ac ati fel offer cloddio. Mae'n bosibl i gopr gael ei allforio o Ben y Gogarth i gyfandir Ewrop hyd yn oed, yn ystod yr Oes Efydd.

[golygu] Olion Cyn-hanesyddol Eraill

Ceir cytiau cynhanesyddol ym mhen gorllewinol y Gogarth. Yn y pen arall mae cromlech a elwir, fel nifer o rai eraill, yn 'Llety'r Filiast' yn sefyll. Mae Pen y Dinas yn fryn-gaer o Oes yr Haearn uwchben 'Nant Dedwydd' ("Happy Valley" y twristiaid). Ar ei gopa mae carreg hynafol 'Crud Tudno', neu 'Y Maen Sigl', sy'n fod i siglo pan bwysir arno ac a gysylltwyd â'r derwyddon gan rhai o hynafiaethwyr rhamantaidd y 19eg ganrif.

[golygu] Olion Hanesyddol

I'r dwyrain o'r copa mewn cwm bach cysgodlyd saif Eglwys Tudno, eglwys wreiddiol y plwyf, a sefydlwyd yn y 6ed ganrif, efallai, gan Sant Tudno. Is-law'r goleudy (gweler isod) mae'r ogof 'Parlwr Llech' ("The Hiding Cave") ac ynddi mae bwrdd a mainc carreg naturiol; fe'i gelwir hefyd 'Ogof y Mynaich' ac fe'i cysylltir â Maenordy'r Gogarth ('Abaty'r Gogarth'), Pen y Morfa, neu â'r Mostyniaid. Mae llwybr bytholwyrdd 'Llwybr y Mynachod' yn rhedeg o'r hen faenordy i'r copa.

[golygu] Bywyd Gwyllt a Natur

Mae praidd o eifr Cashmiraidd ar y Gogarth ers y 19eg ganrif. Ceir nifer o blanhigion prin sy'n tyfu ar bridd galchfaen ac mae 'na nifer o adar y môr yn nythu ar y clogwyni, yn cynnwys y bilidowcar.

[golygu] Atyniadau Eraill

Mae'r Gogarth yn boblogaidd iawn gan dwristiaid yn yr haf ac mae car cêbl Tramffordd y Gogarth yn dringo o'r dref i'r copa. Ar ben clogwyn 300 troedfedd uwch y môr mae hen oleudy, hanner ffordd rownd y "Marine Drive", oedd gynt yn perthyn i Fwrdd Harbwr a Dociau Lerpwl ond sydd bellach yn westy. Mae nifer o ogofâu yn y clogwyni môr yn cynnwys 'Parlwr Llech' (uchod), 'Ogof "Hornby"', 'Ogof Hafnant', 'Ogof Colomenod' ac 'Ogof Dutchman'.

[golygu] Darllen Pellach

  • Harold Hughes a Herbert L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; argraffiad newydd, 1984)
  • Ivor Wyn Jones: Llandudno, Queen of Welsh Resorts (Ashbourne, 2002)
  • E.D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947)

[golygu] Cysylltiadau Allanol

Ieithoedd eraill
Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu