Rhydweli
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Rhydweliau yw pibellau gwaed cyhyrol sy'n cario gwaed i ffwrdd o'r galon. Maent yn wrthgyferbyniad o wythiennau, sy'n cario gwaed yn ôl at y galon.
Mae'r system gylchredol gwaed yn bwysig iawn i gynnal bywyd. Ei brif swyddogaeth yw cario ocsygen a maeth i gelloedd ei organneb, i gludo Carbon Deuocsid a cynhyrchion gwastraff i ffwrdd, cadw lefel pH optimwm, a symudedd elfennau, proteinau a celloedd y system imiwnedd.
Mae gan rhydweliau swydd bwysig yn y rheolaeth o bwysau gwaed hefyd oherwydd maent yn ymateb i'r system nerfol sympathetig. Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.