Rhyfel Wasiristan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gwrthdaro arfog oedd rhyfel Wasiristan (2004–2006) a wnaeth ddechrau yn 2004 pan dwysheuodd tensiynau yn tarddu o chwiliad Byddin Pacistan am aelodau al-Qaeda yn ardal fynyddig Wasiristan ym Mhacistan i fod yn wrthwynebiad arfog gan lwythi lleol. Bu gwrthdrawiadau rhwng lluoedd Pacistanaidd – wedi'u cynorthwyo'n aml gan fomio trachywiredd Americanaidd – a milwyr al-Qaeda, ar y cyd â gwrthryfelwyr lleol a lluoedd o blaid y Taleban. Gwelir y frwydr fel rhan o'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth, ac roedd cysylltiadau gyda gwrthryfel y Taleban yn Affganistan.
Ar 5 Medi 2006, cafodd ei gyhoeddi bod llywodraeth Pacistan a llwythi o blaid y Taleban wedi arwyddo cytundeb heddwch lle cytunodd y llwythi i alltudo milwyr tramor ac i ddarfod cyrchoedd traws-oror yn gyfnewid am bresenoldeb llai o aelodau o luoedd Pacistan.[1]
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
[golygu] Cyfeiriadau
Prif ddigwyddiadau | Erthyglau penodol | Gwledydd a mudiadau | ||
|
|
yn erbyn |