Irac
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
|||||
Arwyddair: Arabeg: الله أكبر | |||||
Anthem: Mawtini | |||||
Prifddinas | Baghdad | ||||
Dinas fwyaf | Baghdad | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Arabeg, Cyrdeg | ||||
Llywodraeth
Arlywydd
Prif Weinidog |
Gweriniaeth Jalal Talabani Nouri al-Maliki |
||||
Annibyniaeth O'r Ymerodraeth Ottoman O'r Deyrnas Unedig |
1 Hydref, 1919 3 Hydref, 1932 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
437,072 km² (58fed) 1.1% |
||||
Poblogaeth - amcangyfrif 2005 - Dwysedd |
28,807,000 (40fed) 59/km² (112fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
amcangyfrif 2005 $89,800,000,000 (58fed) $3,500 (122fed) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | (n/a) – dim | ||||
Arian breiniol | Dinar Iracaidd (IQD ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
(UTC+3) (UTC+4) |
||||
Côd ISO y wlad | .iq | ||||
Côd ffôn | +964 |
Gwlad yn y Dwyrain Canol yn ne-orllewin Asia yw Gweriniaeth Irac neu Irac (Arabeg: العراق al-‘Irāq neu al-Erāq, Cyrdeg: عيَراق), sydd yn cynnwys y rhan fwyaf o Fesopotamia, gogledd-orllewin cadwyn y Zagros a dwyrain Anialwch Syria. Mae'n ffinio â Sawdi Arabia a Kuwait i'r de, Gwlad Iorddonen i'r gorllewin, Twrci i'r gogledd, Syria i'r gogledd-orllewin ac Iran i'r dwyrain. Mae gan y wlad arfordir cyfyng ar Gwlff Persia.
Ystyrir Irac fel y man lle ymddangosodd y gymdeithas sefydlog gyntaf yn y byd gyda holl nodweddion "gwareiddiad" – sef gwareiddiad hynafol Swmeria. Mae Irac wedi bod dan sylw'r byd yn ystod y ddwy ddegawd ddiwethaf oherwydd Rhyfeloedd y Gwlff, dymchweliad yr Arlywydd Saddam Hussein, ffurfio llywodraeth ddemocrataidd newydd a'r gwrthdaro gwleidyddol ac ethnig sydd wedi rhwygo'r wlad byth ers hynny.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Mae mwyafrif Irac yn ddiffeithdir, ond mae'r ardal rhwng y ddwy brif afon, yr Euphrates a'r Tigris, yn dir ffrwythlon. Mae gogledd y wlad yn fynyddig yn bennaf, gyda'i phwynt uchaf yn 3 611 metr, a elwir yn lleol yn Cheekah Dar (Pabell Ddu). Mae gan Irac arfordir cyfyng ar Gwlff Persia.
[golygu] Hanes
[golygu] Hen hanes
Mae Gweriniaeth Irac wedi ei sefydlu ar dir a abnabyddir yn hanesyddol fel Mesopotamia, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o fraich ddwyreiniol y Cilgant Ffrwythlon. Dyma oedd cartref nifer o'r gwareiddiadau cynharaf. Gelwir yr ardal yn aml yn Grud Gwareiddiad o'r herwydd. Roedd yn gartref i ymerodraeth Akkad yn y gogledd a Swmeria ac yna Babilonia yn y de. Ymhlith ei dinasoedd enwog yn y cyfnod hwnnw gellid crybwyll Ur y Caldeiaid (dinas enedigol Abraham), Babilon (lle codwyd y Gerddi Crog enwog), Erek a Nimrwd.
[golygu] Y cyfnod Helenistaidd a chlasurol
Yn sgîl cwymp Babilonia bu Mesopotamia dan reolaeth ymerodron Persia. Am gyfnod Babilon oedd prifddinas ymerodraeth fyrhoedlog Alecsander Mawr.
[golygu] Yr Oesoedd Canol
Dan y califfiaid Abassid roedd Baghdad yn brifddinas y byd Mwslemaidd a blodeuai diwylliant unigryw a chyfoethog. Noddid llneorion, athronwyr ac athrawon. Newidiwyd hynny i gyda gyda chwymp Baghdad i luoedd y Mongoliaid yn y 13eg ganrif a'r gyflafan a distryw a ddilynodd.
[golygu] Y cyfnod trefedigaethol
[golygu] Hanes diweddar
Pan enillodd Irac ei hannibyniaeth yn sgîl yr Ail Ryfel Byd daeth y Ba'athiaid i rym a chychwynwyd cyfnod o foderneiddio a seciwlareiddio. Ond tynhaodd Saddam Hussein ei afael ar y wlad a gwelwyd cyfnod o orthrwm i lawer, yn arbennig y Cyrdiaid yn y gogledd a'r Shiaid yn y de, a byd cymharol da i eraill. Serch hynny parheuai Irac i fod yn wlad seciwlar a rhoddai addysg a statws cydraddoldeb y cyfle i ferched y wlad fwynhau rhyddid sy'n cymharu'n dda â'e sefyllfa yn y Gorllewin.
Yn dilyn ei threchiad yn Rhyfel y Gwlff, bu rhaid i fyddin yr Arlywydd Saddam Hussein tynnu allan o Kuwait. Ond er fod 14 o 18 y wlad yn gwrthrefyla yn ei erbyn, ni chafodd ei ddisodli.[1] Arhosodd mewn pŵer nes Rhyfel Irac yn 2003.
[golygu] Rhanbarthau
|
|
![]() |
[golygu] Demograffeg
Mae tua 79% o boblogaeth Irac yn Arabiaid, 16% yn Cyrdiaid, 3% yn Persiaid a 2% yn Twrcmaniaid. Mae 62% o'r wlad yn Mwslemiaid Shi'a ithna, 33% yn Mwslemiaid Sunni a 5% o grefyddau eraill (yn cynnwys Cristnogaeth).[2] Roedd arfer bod nifer o Iddewon yn byw yn y wlad, ond ers heddiw mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi ymfudo i Israel.[2]
[golygu] Iaith a diwylliant
Yr ieithoedd swyddogol yw Arabeg a Chyrdeg.[2]
Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn Fwslemiaid, yn Sunni neu'n Shia, ond ceir lleiafrif bychan ond dylanwadol o Gristnogion yn ogystal, yn arbennig yn y gorllewin. Mae rhai o gysegrfeydd pwysicaf y Shia i'w cael yn ne Irac, e.e. yn ninas sanctaidd Najaf.
[golygu] Economi
Dioddefai economi Irac yn y 1990au gan nad oedd hi'n cael prynu a gwerthu gyda gwledydd eraill yn dilyn Rhyfel y Gwlff.[3] Gwelwyd peth gwelliant yn y sefyllfa am gyfnod byr yn dilyn rhyfel 2003, ond dirywio mae'r economi ers hynny diolch i ansefydlogrwydd y wlad. Prif allforyn y wlad yw olew.
[golygu] Cyferiadau
- ↑ "Saddam Hussein: Tu ôl i'r masg cyhoeddus", BBC, 13 Chwefror, 2003.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Financial Times World Desk Reference (Dorling Kindersley, 2004)
- ↑ BBC Cymru'r Byd – Ffeil – Rhyfel Irac
[golygu] Cysylltiadau allanol
- (Arabeg) Gwefan swyddogol y lywodraeth
- (Saesneg) CIA - The World Factbook - Iraq
Aelodau Cynghrair y Gwledydd Arabaidd | |
---|---|
Yr Aifft | Algeria | Bahrain | Comoros | Djibouti | Gwlad Iorddonen | Irac | Kuwait | Libanus | Libya | Mauritania | Moroco | Oman | Palesteina | Qatar | Saudi Arabia | Somalia | Syria | Swdan | Tunisia | UAE | Yemen | |