Tombouctou
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Tombouctou (neu Timbuktu) yn ddinas hynafol yn nwyrain canolbarth Mali sy'n brifddinas y rhanbarth o'r un enw.
Mae'n gorwedd ar lannau Afon Niger.
Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd Tombouctou yn ganolfan bwysig ar y llwybrau masnach traws-Saharaidd. Roedd yn enwog yn y byd Islamaidd a thu hwnt am ei phrifysgol a'i llyfrgelloedd. Mae pensaernïaeth hynod yr hen ddinas â'i hadeiladau pridd caled a phren yn nodweddiadol o'r rhanbarth.
Mae'r ddinas wedi gefeillio gyda Y Gelli Gandryll yng Nghymru
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.