Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cymraeg |
---|
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar y Gymraeg |
Iaith |
Gramadeg | Yr wyddor | Seinyddiaeth | Orgraff | Morffoleg | Cymraeg ysgrifenedig | Cymraeg llafar | Benthyg geiriau |
Hanes |
Hanes | Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg | Cymraeg Cynnar | Hen Gymraeg | Cymraeg Canol | Cymraeg Modern Cynnar | Cymraeg Modern Diweddar | Hanes siaradwyr, tiriogaeth a statws y Gymraeg |
Diwylliant a chyfryngau |
Diwylliant | Eisteddfod | Llenyddiaeth | Cerddoriaeth | Theatr | Ffilm | Cyfryngau | Papurau newydd | Radio | Teledu | Rhyngrwyd |
Tafodieithoedd |
Tafodieithoedd | Cymraeg y gogledd | Cymraeg y de | Y Bowyseg | Y Ddyfedeg | Y Wenhwyseg | Y Wyndodeg | Cymraeg y Wladfa | Wenglish |
Mudiadau a sefydliadau |
Cymdeithas yr Iaith | Bwrdd yr Iaith Gymraeg | Cymuned |
Digwyddodd trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain a'r cyfnod wedi iddynt ymadael. Cafodd y Rhufeiniaid, a'u hiaith Lladin, ddylanwad trwm ar y Frythoneg. Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid cafwyd cyfnod ansefydlog iawn i drigolion Prydain, heb gyfundrefn ganolog gref, a thramorwyr o bob tu yn ymosod ar Brydain neu'n ymsefydlu ynddi. Cymaint y bu'r newid ar y Frythoneg fel y bu iddi esgor ar ieithoedd newydd, sef Cymraeg Cynnar a Hen Gernyweg.
Oherwydd y diffyg tystiolaeth ysgrifenedig ni ellir dweud yn sicr pryd y cafodd trawsnewidiad y Frythoneg i Gymraeg Cynnar ei gwblhau. Mae'r arysgrif Gymraeg gynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o tua OC 700. Fe'i ceir ar faen coffa sydd yn awr yn eglwys Tywyn, Meirionnydd. Er bod rhai yn meddwl y gallasai'r Gymraeg fod wedi ymwahanu'n bendant o'r Frythoneg yn gynnar yn y chweched ganrif, derbynnir amcangyfrif gan y mwyafrif o ysgolheigion fod oes Cymraeg Cynnar yn dechrau yn ail hanner y chweched ganrif.
Gan nad oedd y Frythoneg yn iaith ysgrifenedig tystiolaeth anuniongyrchol yn unig sydd i'r newidiadau a ddigwyddodd iddi wrth iddi gael ei thrawsnewid i'r Gymraeg. [1] Mae ieithyddion wedi dyfalu bod gan enwau ac ansoddeiriau y Frythoneg ffurfiau goddrychol, gwrthrychol, genidol a derbyniol a oedd yn nodweddu ieithoedd Indo-Ewropeg Gorllewinol yr adeg honno. Roedd gan enwau yn y Frythoneg ffurfiau unigol, deuol a lluosog. Terfyniadau gwahanol ar y geiriau oedd yn gwahaniaethu un ffurf oddi wrth y llall. Roedd cenedl enw Brythoneg yn wrywaidd, benywaidd neu'n ddiryw. Dim ond un ffurf unigol ac un luosog ar enw ac ansoddair sydd gan y Gymraeg, ac ambell i ffurf ddeuol megis dwylo. Dim ond y genedl wryw a benyw a erys yn Gymraeg. Datblygodd y Gymraeg gyfundrefn newydd o derfyniadau neu newidiadau yn llafariaid bôn y gair i wahaniaethu rhwng geiriau unigol a lluosog, e.e. bardd/beirdd ac i wahaniaethu rhwng ansoddeiriau yn disgrifio enwau gwrywaidd, benywaidd a lluosog, megis gwyn/gwen/gwynion. Cafwyd llawer o newidiadau seiniol yn ystod y trawsnewid. Gellir dirnad proses ffurfio patrymau treiglad yn y newidiadau seiniol. Fe ddilyn disgrifiad o'r trawsnewid a ddigwyddodd i enwau ac ansoddeiriau y Frythoneg.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Colli cyflyrau
Roedd cyflyrau goddrychol, gwrthrychol a genidol i enwau Brythoneg, a'r rheini'n wahanol ar gyfer enwau unigol, deuol a lluosog, e.e. y Frythoneg am yr enw 'bardd' yw [2]:
Cyflwr | unigol | lluosog |
---|---|---|
goddrychol | bardos | bardī |
gwrthrychol | bardon | bardōns neu bardōs |
genidol | bardī | bardon |
Roedd cyflyrau tebyg hefyd i'r ansoddeiriau. Byddai terfyniadau ansoddeiriau a rhifolion yn amrywio i ddangos cenedl gair a allai fod yn wrywaidd, benywaidd neu ddiryw megis trumbos (gwrywaidd), trumba (benywaidd), trumbon (diryw). Collwyd y terfyniadau hyn; e.e. enwau bardos → bardd, mapos → mab, ansoddeiriau u̯indos → gwyn, u̯inda → gwen, trumbos → trwm, trumba → trom, rhifolion oinos → un. Collwyd y genedl ddiryw.
[golygu] Cyfnewidiadau seiniol
Newidiwyd rhai o'r llafariaid a'r cytseiniaid a rhai cyfuniadau o lythrennau, lle y byddai ynganiad y gair Cymraeg yn ddiymdrech o'i gymharu â'r wreiddiol Frythoneg. Byddai t yn troi'n th ar ôl r megis yn nerton → nerth ond byddai llafariad+t+r yn achosi i'r t droi'n d megis yn natrīcs → neidr.
Newidiwyd y llafariaid fel a ganlyn:
ā → aw, o; ī → i, ü → i; ae → oe; ei → wy; oi → u; au → u, aw, au
Newidiwyd u̯ ar ddechrau gair i gw, e.e. u̯indos → gwyn. Weithiau byddai'r seiniau yn newid lawer gwaith, e.e. brĭctos → brĭchtos → brĭchthos → brĭghthos → brĭi̯thos → brithos → brith. Byddai llafariad yn gallu dylanwadu ar lafariad gyfagos gan achosi newid mewn proses a elwir yn affeithiad. Cai y llafariad gyntaf ei newid fel bod siâp y geg yn debycach i siâp y geg wrth yngan yr ail lafariad, e.e. affeithiodd yr ā yn uĭndā yr ĭ yn y sillaf o'i blaen a'i throi'n e yn uendā. Troes hwnnw yn gwen.
[golygu] Adeiladu ffurfiau gramadegol newydd
Byddai gwahanol gyflyrau gair yn newid mewn gwahanol ffyrdd yn ôl y cyfuniadau llafariaid yn y geiriau, e.e. troes bardos (unigol enwol) yn bardd (dim newid yn y llafariad). Troes bardi (lluosog enwol) yn beirdd (yr i ar ddiwedd bardi yn affeithio'r a a'i newid yn ei, wedyn y terfyniad yn cael ei golli). Yn y ffordd hon wedi colli'r terfyniadau rheolaidd Brythoneg ar eiriau, ffurfid patrymau newydd o ffurfiau unigol/lluosog. Pan fyddai colli terfyniad yn creu unigol a lluosog yn gywir yr un fath byddai siaradwyr yn cymathu'r gair i un o'r patrymau unigol/lluosog newydd, e.e. ceiliog/ceiliogod yn dilyn y patrwm a fodolai eisoes o ychwanegu –od i ffurfio lluosog.
Terfyniad –ā oedd i ffurf fenywaidd ar ansoddair yn y Frythoneg. Affeithid llafariad fôn y gair gan yr –ā derfynol, e.e. dŭbnā → dofn (o'i gymharu â'r newid yn y ffurf wrywaidd dŭbnos → dwfn). Gwelwn ddechrau ffurfio patrymau newydd i wahaniaethu rhwng ansoddeiriau benywaidd a gwrywaidd yn tyfu o'r hen derfyniadau Brythoneg. Yn yr un modd byddai'r terfyniad i ar ffurf luosog ansoddair yn affeithio'r llafariad yn y sillaf blaenorol ac yna weithiau'n newid ei hunan gan greu patrymau newydd i'r ffurf luosog ar ansoddair. Yng Nghymraeg modern lluosog dwfn yw dyfnion.
[golygu] Rhai patrymau treiglo
Gallai'r newidiadau yn y seiniau effeithio ar seiniau mewn cyfuniadau o eiriau yn ogystal ag o fewn un gair. E.e. byddai m yn troi'n f pan fyddai'r ddwy lafariad a o'i amgylch: abŏna māra → afona fāra → afon fawr. Gan fod llawer o enwau benywaidd yn y Frythoneg yn terfynu gyda'r llafariad a dyma ddechrau ffurfio patrwm o dreiglo cytsain flaen yr ansoddair dilynol. Parhaodd y treiglad wedi i'r geiriau golli'r llafariad derfynol. Gyda threigl amser cymhwyswyd y patrwm i'r holl ansoddeiriau a ddilynent enwau benywaidd (proses o gydweddiad) gan ffurfio 'rheol' bod ansoddair yn treiglo'n feddal ar ôl enw benywaidd.
Terfynai ffurf enwol enw yn y rhif deuol yn y Frythoneg mewn llafariad. Megis gyda'r ansoddeiriau yn dilyn enwau benywaidd ffurfiwyd treiglad meddal mewn ansoddair yn dilyn enw deuol. Dyma wraidd y patrwm Cymraeg o dreiglo enw wedi'r rhif dau neu dwy.
[golygu] Ffynonellau a throednodion
- Henry Lewis, Datblygiad yr Iaith Gymraeg,(Prifysgol Cymru, 1931)
- ↑ Yn ystod y 19eg ganrif dechreuwyd astudio hanes datblygiad ieithoedd a'r perthynas rhyngddynt. Defnyddiwyd y dystiolaeth ysgrifenedig oedd ar gael a'i gymharu ag ieithoedd eraill yn dyddio o'r un adeg hanesyddol a dilyn hynt iaith ar hyd yr oesau. O ddeall patrymau newid ieithyddol mae modd ail-lunio ieithoedd diflanedig. Technegau ieitheg gymharol, yn adeiladu ar dystiolaeth enwau llefydd a phobl Brythonig ac ambell i enw cyffredin a gofnodwyd yn Lladin neu yng Ngroeg, sydd wedi galluogi ieithyddion i ddirnad peth o eirfa a gramadeg y Frythoneg.
- ↑ Defnyddir confensiwn ieithegwyr sef yr Wyddor Seinegol Gydwladol i gyfleu seiniai ar bapur fel a ganlyn:
- Dynoda i̯ ac w̯ i-gytsain ac w-gytsain fel y'i ceir yn iach, y wasg
- Dynoda ˉ ar ben llafariad lafariad hir fel y'i ceir yn haf, hedd, gof, hir, dyn
- Dynoda ˘ ar ben llafariad lafariad fer iawn fel y'i ceir yn cwt, het, hap
- Dynoda ˜ ar ben llafariad bod iddo sain drwynol fel y'i ceir yn dianc